Sefydlwyd y Gronfa gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau hynny sydd yn gartref i’w fferm ynni gwynt ar draws blaenau cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.
Mae gan y gronfa gyllideb flynyddol o £1.8 miliwn y flwyddyn yn gysylltiedig â mynegai, ac wrth i fynegai cysylltiedig olygu ei bod ynghlwm wrth gyfradd chwyddiant, mae’n tyfu bob blwyddyn ac yn 2024 roedd yn £2.4 miliwn. Mae’r gronfa yn cynnig cyfle anhygoel i bobl leol fuddsoddi ynddynt eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sydd orau yn eu cymunedau. Ewch i’r tudalennau ‘Gwneud Cais am Gyllid’ i gael gwybod mwy.
Rheolir y Gronfa gan Gwmni di-elw er Budd Cymunedol sydd yn atebol yn lleol ac yn gwbl annibynnol. Mae gan y Cwmni wyth cyfarwyddwr a thîm o 3 aelod o staff – pob un â chysylltiadau lleol sydd yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cynnal cymunedau. Rydym yma i helpu! Gallwch ddarllen mwy amdanom ni fan hyn.
Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau ar y wefan, ond os na, tarwch nodyn atom ni enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch 01685 878785. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.