Arwr Lleol y Mis – Nathan Howells

973 637 rctadmin

Pwy yw arwr lleol y mis yma?

 

Nathan yn The Play Yard, Treorci.

 

Beth maen nhw wedi bod yn gwneud?

 

Dechreuodd Nathan fel rheolwr The Play Yard tua diwedd 2018 pan gymerwyd y cyfleuster adfeiliedig drosodd gan Valleys Kids fel menter gymdeithasol. Ers hynny, mae Nathan wedi gweithio’n ddiflin i wella a mwyhau’r cyfleuster, gan ychwanegu ardal chwarae rôl i blant, cynnig ystafelloedd ar log, dod â llu o wasanaethau allanol i mewn fel Balance Ability a Rock a Tots, chwarae meddal, cwrs Rhyfelwr Ninja, hurio ar gyfer partis, Rugby Starz ac yn fwyaf diweddar, sicrhau cyllid i osod ardal chwarae synhwyraidd. Fe sefydlodd apêl teganau adeg y Nadolig a sesiynau Brecwast gyda Siôn Corn, ac mae wedi sefydlu ac yn rheoli cynllun rhannu bwyd o’r lleoliad.

 

Ers i’r Yard gau o ganlyniad i COVID-19, mae Nathan wedi llenwi eu cyfryngau cymdeithasol gyda storïau lleol ar ôl gwahodd pobl i #TellUsSomethingGood ac o ddydd Llun 6 Ebrill byddant yn cynnig prydau parod i blant am ddim, gan ddeall bod hwn yn gyfnod digynsail a phryderus i bawb.

 

Pam maent yn anhygoel?

 

Mae Nathan wedi cofleidio pob her fel cyfle a chreu gofod cymunedol go iawn lle mae teuluoedd yn cael eu croesawu ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae’r Play Yard yn lliwgar, yn gyffrous ac yn ddiogel. Mae Nathan yn gweithio’n ddiwyd ar gyfryngau cymdeithasol (gyda 5,000 o ddilynwyr) gan sicrhau bod y cymunedau lleol yn parhau mewn cyswllt ac yn gyffrous gyda’r hyn y maent yn ei wneud. Mae’r datblygiadau yno wedi bod yn syfrdanol o fewn cyfnod amser byr. Y peth arall y mae Nathan wedi’i wneud yw adeiladu tîm anhygoel o bobl o’i gwmpas. Heb y staff ni fyddai The Yard gystal ag y mae, ac mae Nathan wedi meithrin gweithle lle gwerthfawrogir ac ymddiriedir mewn pobl, ac maent yn mwynhau bod yno’n fawr.

Mae mentrau cymdeithasol o’r natur hon yn waith caled ac yn wynebu llawer o wobrwyon a phroblemau ond mae Nathan a’i dîm o dan arweiniad Richard yn Valleys Kids yn cydio ynddo ar rediad dwys ac ysbrydoledig. Dymunwn bob lwc i chi yn ystod y cyfnod hwn ac ni allwn aros am weld beth sy’n digwydd nesaf.

 

Dyfyniadau gan bobl eraill

“Mae Play Yard yn cynrychioli ysbryd y gymuned ar ei orau! Am weithred syfrdanol. Da iawn Play Yard xx”

“Mor ystyriol, Diolch Nathan, LLEOL YW’R GORAU…. ?”

“Rydych chi’n golygu cymaint i ni ac rydym yn diolch i chi am eich holl gefnogaeth. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi eto pan fydd hyn oll wedi dod i ben x”

“Yn y cyfnod hynod anodd yma mae Nathan wedi trawsnewid Valleys Kids Play Yard yn Nhreorci er mwyn iddo wneud a dosbarthu 150 o brydau plant am ddim bob dydd i deuluoedd anghysbell.”

“Cyfleuster ysblennydd ac mae’r ffordd rydych yn ymwneud ag ysgolion lleol yn wych. Mae ennyn eu diddordeb, cael nhw i ddod i helpu didoli a phecynnu’r basgedi bwyd cymunedol bob wythnos yn ffordd wych o gynnwys y plant yn y materion go iawn sy’n digwydd o’u cwmpas, ac wrth gwrs maen nhw’n dwlu ar ‘chwarae’ wedyn.”