Cefnogaeth trwy’r achosion Coronavirus (COVID-19).

150 150 rctadmin

Mae CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn cydnabod y bydd Coronafirws (COVID-19) yn cael effaith fawr ar gymunedau ar draws ardal y Gronfa.  Rydym am eich sicrhau y byddwn yn gwneud beth bynnag a allwn i’ch cefnogi yn ystod yr wythnosau nesaf. Pethau i’w nodi:

  • Mae’r Gronfa Gymunedol yn dal ar agor ac yn gweithio – er y bydd yn rhaid i ni weithio mewn ffyrdd gwahanol o bosibl, byddwn yn parhau’n agored cyhyd ag y gallwn. Gall ein tîm staff weithio o gartref os bydd angen.
  • Cyfarfodydd – am y tro, ni fydd staff yn teithio i gyfarfodydd a lleoliadau y tu allan i’r swyddfa, ac ni fyddwn yn cynnal cyfarfodydd yn ein swyddfa. Wrth gwrs, byddwn yn parhau i siarad a gweithio gydag ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr, partneriaid a rhanddeiliaid trwy alwadau ffôn a fideo a negeseuon e-bost.
  • Diwrnodau Apwyntiadau – bydd y rhain yn parhau, ond drwy sgwrs ffôn yn hytrach na chyfarfod wyneb yn wyneb. Os oes gennych slot wedi’i threfnu’n barod, bydd hyn yn parhau yn ôl y bwriad ond dros y ffôn. Os hoffech drefnu slot – cysylltwch â ni!
  • Rydym yn edrych ar ffyrdd eraill y gallem gefnogi ac yn archwilio sut y gallem greu cronfa arbennig i gefnogi grwpiau neu fusnesau yr effeithir arnynt gan y Coronafirws. Byddwn yn rhannu rhagor am hyn cyn gynted ag y gallwn.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb am ein cynlluniau wrth iddynt ddatblygu – os oes unrhyw beth yr hoffech ei wybod neu yn pryderu yn ei gylch, cysylltwch â ni – 01685 878785 / enquiries@penycymoeddcic.cymru