GRANT Y GRONFA MICRO £5000 I Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

599 757 rctadmin

Ymgeisiodd Cyfeillion Ysgol Gyfun Cwm Rhondda (yr ysgol uwchradd Gymraeg sy’n gwasanaethu Cymoedd y Rhondda) am gymorth gyda’r gost o gynnal perfformiad Cymraeg o Beauty and the Beast ym mhrif Theatr y Parc a’r Dâr ar ôl prynu hawliau perfformio Beauty and the Beast a threulio 3 mis dwys yn cyfieithu’r sioe gyfan – gan gynnwys y caneuon a’r sgoriau

Roeddent yn gweithio gyda thiwtoriaid Cymraeg i Oedolion lleol ac yn bwriadu hyrwyddo hyn i’r holl siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a chefnogwyr yr ysgol. Roeddent yn gobeithio, drwy roi llwyfan i sioeau Cymraeg, y byddai myfyrwyr yn magu hyder wrth berfformio yn eu hiaith gyntaf, y byddai myfyrwyr yn ymuno â grwpiau presennol ac y byddai’r grwpiau hynny’n ymgorffori ac yn cofleidio’r iaith Gymraeg.

“Mae cael grant i’n helpu ni i dalu am gostau’r prosiect hwn a chaniatáu i ni gynnal perfformiad Cymraeg ym mhrif Theatr y Parc a’r Dâr wedi gwneud gwahaniaeth mawr – mwynhaodd y disgyblion y profiad mas draw, gyda’r cyfle i berfformio’r sioe fwyaf proffesiynol iddynt ei gwneud erioed, a’r cyfan wrth gymdeithasu yn y Gymraeg y tu hwnt i oriau dysgu.

Roedd cyfle i’r cyhoedd wylio perfformiad yn yr iaith Gymraeg ac roedd ein noson olaf wedi gwerthu allan. Roedd y prosiect o fudd mawr i ddisgyblion ein hysgol oherwydd nad ydynt erioed wedi gwneud sioe gyda’r holl set arbennig, y gwisgoedd, y propiau ac ati.  Roedd y cyhoedd hefyd wedi elwa a chael cyfle i wylio perfformiad byw o sioe gerdd Gymraeg, sy’n rhywbeth prin iawn yn ein hardal.

 

Mae’r ffaith bod yr holl docynnau wedi cael eu gwerthu ar gyfer yr ail noson – yn dangos bod y Gymraeg yn fyw yng Nghwm Rhondda.  Roedd yr holl waith caled yn yr ymarferion hefyd wedi dwyn ffrwyth ac roedd y disgyblion wrth eu boddau yn perfformio ar lwyfan hanesyddol gyda’r holl bethau ychwanegol o’u hamgylch.” –  Seren-Haf (Ysgol Gyfun Cwm Rhondda)

Sut wnaeth y prosiect hwn fodloni blaenoriaethau’r gronfa:

Hyrwyddo diwylliant Cymreig/annog cyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol/calendr o ddigwyddiadau, wedi’u hysbysebu’n dda ar draws yr ardal a’r flwyddyn ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr.