EIN BLAENORIAETHAU ARIANNU

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae trigolion a chymunedau lle mae fferm wynt Pen-y-Cymoedd wedi’i lleoli wedi bod yn ystyried y cwestiwn canlynol: Beth gallai’r Gronfa hon ei wneud er mwyn sicrhau manteision gwirioneddol i’r ardal leol?

Mae’r Prosbectws wedi datblygu’r trafodaethau a’r sgyrsiau lleol canlynol. Y Weledigaeth hon yw gwaith a chreadigaeth y cymunedau eu hunain.

Mae’r bobl a fu wrthi’n llunio’r weledigaeth yn arbenigwyr lleol: maent yn byw ac yn gweithio yma; maent yn gyfarwydd â’r gwasanaethau a’r ardal ac yn eu defnyddio; maent yn deall yr ardal a’i hasedau – a’r bylchau yn y ddarpariaeth sydd ar gael a’r cyfleoedd i lenwi’r bylchau hynny.

Ein nod yw datblygu’r Prosbectws er mwyn creu adnodd sydd mor defnyddiol â phosibl i ddarpar ymgeiswyr i’r Gronfa. Os ydym eisoes yn gwybod am gynlluniau neu adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol, rydym wedi cyfeirio atynt. Byddwn yn ychwanegu at hyn ac yn datblygu’r elfen hon drwy ein trafodaethau â chi.

Mae’r ffilm hon sydd wedi’i hanimeiddio yn rhoi trosolwg o’r weledigaeth gymunedol ar gyfer y Gronfa: yn: http://bit.ly/PyCCommunityFundVision