MONITRO A GWERTHUSO

Monitro a Gwerthuso

Croeso i’n tudalennau gwe monitro a gwerthuso!

Ni waeth p’un a ddyfernir grant neu fenthyciad i chi gan y Gronfa Grantiau Bychain neu’r Gronfa Gweledigaeth, byddwn yn gofyn i chi adrodd yn ôl i ni ar yr hyn a ddigwyddodd o ganlyniad iddo.

Rydym yn deall bod pethau’n newid ac nad ydynt bob amser yn glynu wrth y cynllun. Weithiau bydd yn rhagori ar bob disgwyliad, ac weithiau mae’n mynd yn gyfan gwbl o chwith! Peidiwch â phoeni. Y cyfan y gofynnwn amdano yw i chi gadw mewn cysylltiad. Ni waeth beth sy’n digwydd, gellir dysgu pethau defnyddiol.

Yn y tudalennau hyn fe ddewch o hyd i lawer o wybodaeth i’ch helpu monitro a gwerthuso eich prosiect a darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom.

Gallwch gael gwybod am ein cynnydd ni yn CBC y Gronfa Gymunedol – rydym yn monitro ein perfformiad ein hunain hefyd. Rydym wedi comisiynu’r ymgynghorwyr annibynnol Wavehill i’n helpu gyda hyn o beth dros y blynyddoedd i ddod. Byddant yn cydweithio â ni i werthuso:

a. Effaith a deilliannau prosiectau a gefnogir gan y Gronfa Gymunedol

b. Cyflwyno’r Weledigaeth Gymunedol a ddisgrifir ym Mhrosbectws y Gronfa

c. Arferion gwaith ac effeithiolrwydd CBC y Gronfa Gymunedol ei hun – pa mor dda yr ydym yn gwneud ein swydd

Help gyda Jargon:

  • Monitro: Dyma broses dreigl sydd yn aml yn ymwneud â rhifau a chywain gwybodaeth allweddol am brosiect yn barhaus ac yn rheolaidd
  • Mewnbynnau: Y buddsoddiad sy’n cael ei wneud, y mae ei angen er mwyn i’r prosiect ddigwydd, staff, cyllideb, gwirfoddolwyr, etc.
  • Allbynnau: nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau sy’n deillio o weithgareddau prosiect
  • Deilliannau (y cyfeirir atynt weithiau fel ‘canlyniadau’): y gwahaniaeth rydych yn ei wneud – newidiadau, dysgu neu effeithiau eraill sy’n deillio o’r hyn y mae’r prosiect neu sefydliad yn ei wneud, ei gynnig neu ei ddarparu
  • Effaith: effeithiau ehangach neu dymor hwy allbynnau, deilliannau a gweithgareddau prosiect.

Dolenni Cyflym

Sut ydym ni'n gwneud?

Monitro a Gwerthuso:

CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Darganfod mwy am...

Dolenni Cyflym

Monitro a Gwerthuso:

Darganfod mwy am...

Pam, beth a sut!

Monitro a Gwerthuso:

Gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol

Darganfod mwy am