Eich Prosiect

Monitro a Gwerthuso

Eich Prosiect

Monitro a Gwerthuso: Eich Prosiect

CRONFA GRANTIAU BYCHAIN

Yn eich ffurflen gais, rydym yn gofyn i chi ddweud wrthym beth yw eich gobeithion ar gyfer tri phrif ddeilliant eich prosiect (gallwch gael mwy!). Rydym yn deall bod pethau’n newid ac nad ydynt bob amser yn glynu wrth y cynllun, felly peidiwch â phoeni – mae i gyd yn ddysgu defnyddiol.

Pan ddaw eich prosiect a ariennir i ben, byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym p’un a gyflawnwyd y deilliannau disgwyliedig ai beidio a sut brofiad a gawsoch. Mae darparu’r wybodaeth hon yn rhan o’ch ymrwymiad pan fyddwch yn derbyn eich grant. Byddwn naill ai’n anfon ffurflen atoch i’w chwblhau neu’n cael sgwrs â chi dros y ffôn – beth bynnag sy’n gweithio orau i chi. Mae ffotograffau a dyfyniadau unrhyw gyfranogwyr yn helpu dod â’r prosiect yn fyw! Efallai y byddwn yn gofyn am dystiolaeth o wariant hefyd – derbynebau, anfonebau etc.

Y GRONFA GWELEDIGAETH

Ceir amrywiaeth eang o brosiectau a gefnogir gan y Gronfa Gymunedol. Bydd rhai’n cael eu hariannu dros flynyddoedd lawer, gyda thaliadau cyllid refeniw trwy gydol cyfnod y prosiect – gydag eraill efallai y bydd angen dim ond un taliad cyfalaf. Bydd y gofynion adrodd yn cael eu teilwra’n briodol. Ni waeth beth yw’r trefniadau, mae angen i’r holl dderbynyddion grant ddweud wrthym sut y gwariwyd yr arian, ac yn hollbwysig, pa wahaniaeth y mae’r gwaith a gefnogwyd wedi’i wneud.

Darllenwch fwy am fonitro a gwerthuso prosiect eich cronfa gweledigaeth yma