Cefnogi Cymunedau a Phroffiliau Cymunedol

Croeso i’n Proffiliau Cymunedol a’n Cymunedau Cefnogol!

Cymorth Cymunedau

Mae gan gymunedau ym maes buddiant y Gronfa (sef rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon) bellach dîm Cefnogi Cymunedau penodedig, sy’n darparu cymorth datblygu i ymgeiswyr i’r Gronfa derbynwyr grantiau.

Mae CVS Castell-nedd Port Talbot ac Interlink (y cynghorau gwirfoddol sirol ar gyfer Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf) yn cyflogi staff medrus i weithio gyda staff y Gronfa Gymunedol ac mewn partneriaeth ag arweinwyr lleol a chymunedau i sicrhau bod y Gronfa yn creu newidiadau cadarnhaol a pharhaol. Mae’r Tîm Cefnogi Cymunedau yn darparu cefnogaeth ymarferol a chyflwyniadau i wasanaethau arbenigol pellach pan fo angen. Mae’r tîm hefyd yn dod â grwpiau at ei gilydd ar draws ffiniau traddodiadol, gan nodi a hyrwyddo cyfleoedd i gynllunio a gweithio gyda’i gilydd. Gan adeiladu ar gryfderau ac asedau lleol, mae cymunedau’n cael eu cynorthwyo i ddatblygu a chyflwyno prosiectau, rhaglenni a mentrau sy’n mynd i’r afael â materion lleol – yn rhannu sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau.

Bydd y Gronfa Gymunedol ar waith am yr 20 mlynedd nesaf o leiaf, ac mae ei chynlluniau yn uchelgeisiol. Dros y cyfnod hwnnw, gobeithir y bydd y Gronfa yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i wneud yr ardal yn lle deinamig, cyffrous, bywiog i fyw a gweithio ynddi. Bydd y cymorth ychwanegol a gynigir gan CVS Castell-nedd Port Talbot ac Interlink yn helpu i gyflawni’r nod hwn.

Os oes gennych chi neu’ch sefydliad neu fusnes brosiect mewn golwg, bach neu fawr, mae’r Gronfa Gymunedol yn croesawu ymholiadau. Dysgwch am ein rhaglenni grantiau Bach a’r Gronfa Gweledigaeth ar ein gwefan – www.penycymoeddcic.cymru – neu rhowch alwad i Barbara neu Kate ar 01685 878785. Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!

Proffiliau Cymunedol

Gan weithio gyda phartneriaid cymunedol, Interlink RhCT a CVS CNPT Rydym wedi datblygu Proffiliau ar gyfer pob Cymuned o fewn maes buddiant y Gronfa.  Maent yn casglu llawer o wybodaeth ac yn helpu i roi darlun i ni i gyd o, er enghraifft:

• Asedau cymunedol (adeiladau a mannau gwyrdd) a grwpiau gweithredol a phartneriaethau
• Adnoddau i bobl ifanc – gan gynnwys ble maen nhw’n mynd i’r ysgol
• Cyflogaeth ac iechyd
• Cludiant cyhoeddus
• Busnesau a siopau lleol

Mae’r Proffiliau hefyd yn ein helpu i weld lle mae bylchau yn y ddarpariaeth.

Sut y gellir eu defnyddio
Maent ar gael isod i bawb eu defnyddio. Gobeithiwn y byddant yn ddefnyddiol, er enghraifft:
• pan gynllunnir prosiectau neu wasanaethau newydd – i weld a oes pethau tebyg ar waith eisoes
• i nodi partneriaid prosiect
• i ddangos i ddarpar gyllidwyr bod angen clir am yr hyn sydd gennych mewn golwg

Diweddariadau
Rydym yn gwybod bod cymunedau bob amser yn newid, felly bydd y proffiliau yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn rhoi darlun cywir.  Cynhwysir y dyddiad adolygu ar bob un, ynghyd â dyddiad y diweddariad nesaf.  Rydym yn anelu at wneud hyn bob 6 mis.

Mae angen eich help arnom ni gyda hyn!  Os gallwch sylwi ar unrhyw beth sydd ar goll neu nad yw’n gywir mwyach, rhowch wybod i ni. Rydym yn croesawu adborth a diweddariadau yn fawr iawn – gallwch anfon e-bost atom i ddweud wrthym beth sydd angen ei newid.

Dolenni Cyflym