Afan Lodge wedi’i arbed er budd y gymuned

1024 433 rctadmin

Mae’n bleser gan Gwmni Buddiannau Cymunedol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd (CBC PyC) gyhoeddi ei fod wedi gweithio gyda’r perchnogion ac eraill i sicrhau cyfraniad parhaus Afan Lodge at ffyniant Cwm Afan a chymunedau ehangach.  Mae bellach yn is-gwmni i CBC PyC a fydd yn cael ei reoli a’i redeg ar ran CBC PYC gan staff lleol – gan ryddhau ei botensial i ehangu ei arlwy mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae CBC PyC wedi gwneud hyn fel rhan o’i gylch gwaith a’i genhadaeth i helpu i ysgogi ac adfywio gweithgarwch economaidd ledled ardal buddiant y Gronfa.

Mae’r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu’r gwerth y mae CBC PyC yn ei roi ar yr angen i sicrhau llety o safon i ymwelwyr yng Nghwm Afan fel conglfaen datblygu economaidd pellach yn yr ardal.

Hoffai CBC PYC ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni’r ateb hwn: y perchnogion, Banc Nat West, ein tîm cyfreithiol yn Capital Law, David & Snape a chyfrifwyr Menzies. Heb eu dyfalbarhad a’u hyblygrwydd ni fyddai’r canlyniad cadarnhaol hwn wedi bod yn bosibl.

Manylion pellach  yma