Mae CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn recriwtio

1024 560 rctadmin

Swyddog Cymorth Menter a Chyllid

Gydag £1.8 miliwn y flwyddyn (mynegrifol) tan 2043, mae’r Gronfa’n buddsoddi mewn cymunedau a busnesau ar draws cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon uchaf. Os ydych yn angerddol am yr ardal hon, ac yn teimlo’n gyffrous am yr hyn y gall y Gronfa ei gyflawni, a hoffech ymuno â’n tîm staff bach yn y rôl newydd unigryw hon?  Gyda phrofiad o reolaeth ariannol a datblygu busnes (cymdeithasol neu fasnachol), byddwch yn cefnogi’r CBC ei hun – gan arwain ar ddatblygu ein portffolio benthyciadau newydd, cydlynu’r ddarpariaeth cyngor a chymorth i ymgeiswyr busnes (ochr yn ochr â gwasanaethau cymorth sy’n bodoli eisoes) a datblygu rhwydwaith rhanddeiliaid busnes ar draws ardal y Gronfa.

Cyflog: £25,000 – £30,000 y.f. (+ 6% pensiwn) Swydd llawn amser, barhaol

Lleoliad: Aberdâr, De Cymru

Dyddiad Cau: 17.00, 24 Chwefror 2020

Dyddiad y Cyfweliadau: 27 Chwefror 2020 (os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ar brynhawn 25 Chwefror) 

I wneud cais: Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais:

–          E-bostiwch applications@penycymoeddcic.cymru  

–          Gweler www.penycymoeddcic.cymru/newyddion ac ati.  

–      Ffoniwch 01685 878785 i ofyn am becyn

Crynodeb:

Bydd y swydd newydd gyffrous hon yn defnyddio’ch arbenigedd ym maes rheolaeth ariannol a’ch gwybodaeth am ddatblygu busnes er mwyn cefnogi’r broses o ddatblygu economi ffyniannus yn ardal buddiant y Gronfa.  Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gydag entrepreneuriaid a busnesau (masnachol a chymdeithasol) a chyda mentrau cymorth sy’n bodoli eisoes i sicrhau y darperir cyngor ac arweiniad o’r safon uchaf. Yn ddelfrydol, bydd gennych ddealltwriaeth gadarn o’r heriau sy’n wynebu sefydliadau’r sector preifat a gwirfoddol a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Amdanom ni:

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd ar gael i grwpiau cymunedol a busnesau sy’n gweithio i wella a datblygu cyfleoedd i bobl sy’n byw yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.  Ein nod yw yn 2043 a thu hwnt, y bydd ardal Pen y Cymoedd yn lle deinamig, cyffrous a bywiog i fyw a gweithio ynddi.

Cafodd y Gronfa ei sefydlu gan weithredydd y fferm wynt Vattenfall, fel rhan o ymrwymiad hirdymor y cwmni i’r cymunedau lle y lleolir y tyrbinau. Gydag incwm blynyddol (mynegrifol) o £1.8m y flwyddyn tan 2043, dyma’r gronfa fwyaf o’i math ar hyn o bryd yn y DU. Mae’r Gronfa yn cael ei rheoli gan Gwmni Buddiant Cymunedol cwbl annibynnol (CBC). Mae gan y Bwrdd saith Cyfarwyddwr, sy’n gyfrifol am sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau a’i gyfrifoldebau cyfreithiol a bod safonau llywodraethu yn uchel.

 

Cyn i’r Gronfa gael ei lansio, bu Vattenfall yn ymgynghori’n eang, gan gynnal sgwrs ddwy flynedd gyda’r gymuned, a oedd yn cynnwys mwy na 3000 o drigolion, grwpiau a sefydliadau.   Crynhodd Vattenfall yr holl flaenoriaethau cymunedol eang a nodwyd mewn Prosbectws.