Mae CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn recriwtio Aelodau Bwrdd!

1024 768 rctadmin

Agorodd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd am fusnes ym mis Rhagfyr 2016, gan gynnig ffynhonnell ariannu newydd a sylweddol ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Os ydych yn angerddol dros yr ardal hon, ac yn gyffrous am yr hyn y gall y Gronfa ei gyflawni – a hoffech chi ymuno â ni?

 

Rydym am benodi aelodau newydd i ymuno â’n Bwrdd ym mis Mehefin eleni.

 

Rydym yn croesawu ceisiadau’n benodol gan bobl sy’n byw neu’n gweithio yn ardal y Gronfa. Nid yw profiad blaenorol o fod yn aelod bwrdd neu ymddiriedolwr yn hanfodol – mae hyfforddiant ar gael.

 

Cynhelir tua 9 cyfarfod bob blwyddyn. Rydym yn ceisio sicrhau bod dyddiadau ac amserau cyfarfodydd yn hyblyg i alluogi cynifer o bobl â phosib i’w mynychu.

 

Mae aelodau’n gyfrifol am:

          sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau cyfreithiol a safonau llywodraethu uchel

          goruchwylio rheolaeth a chyfeiriad strategol y Gronfa o ddydd i ddydd

          sicrhau lefelau uchel o gyfranogiad gyda’r gymuned leol a budd-ddeiliaid.

          asesu a dyfarnu grantiau cymunedol

 

 

 

Y tâl cydnabyddiaeth yw £300 y dydd (pro-rata ar gyfer dyddiau rhannol), ynghyd â chostau teithio rhesymol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi’n ffurfiol ar 13.6.20 am gyfnod o 3 blynedd gyda’r potensial am 3 blynedd bellach.

 

Ffoniwch ni ar 01685 878785 am fwy o wybodaeth ac i ofyn am becyn gwybodaeth

 

 

Terfyn amser ar gyfer derbyn ceisiadau:  17.00, Dydd Llun, 2fed Mawrth 2020

Cyfweliadau: w/c 9.3.20

I wneud cais: Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, os gwelwch yn dda:

– E-bost applications@penycymoeddcic.cymru

– Gweler www.penycymoeddcic.cymru/newyddion

– Ffoniwch 01685 878785 i ofyn am becyn