Buddsoddiadau Pen y Cymoedd

Buddsoddiad

Anogwyd cronfa Pen y Cymoedd gan gwmni Vattenfall i weithio mewn dulliau trawsnewidiol ac arloesol i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau a’r cyfleoedd yng Nghymoedd De Cymru, yn ychwanegol at godi grantiau traddodiadol, neu ochr yn ochr â hwy.

O’r cychwyn cyntaf, roedd Cyfarwyddwyr newydd y Gronfa yn cael eu hysbrydoli gan gyfoeth y syniadau a gynigiwyd yn lleol, ac rydym yn benderfynol o ddatblygu dull strategol sy’n adeiladu ar asedau a chryfderau rhyfeddol ein cymunedau i wneud gwahaniaeth go iawn, a hwnnw’n un sy’n parhau. Un o gryfderau’r Gronfa yw ei chapasiti i helpu mentrau a sefydliadau cymunedol, fel ei gilydd. Un arall yw ei gallu i feithrin creadigrwydd ac arloesedd, a gweithio mewn partneriaeth ag eraill i greu’r effaith fwyaf posibl.

Hyd yma rydym wedi cynnig 28 o fenthyciadau ac wedi gwneud un buddsoddiad uniongyrchol, sef Afan Lodge, fel rhan o’n cylch gorchwyl a’n cenhadaeth i helpu i symbylu ac adfywio gweithgaredd economaidd dros holl faes buddion y Gronfa. Gellir gweld manylion pob benthyciad a wnaed hyd yma yn: Vision-Fund-Awards-.pdf (penycymoeddcic.cymru)

Afan Lodge

Ar ddiwedd 2019, cafodd Bwrdd PyC gyfle i brynu Afan Lodge, gwesty yng Nghwm Afan. Ar ôl dilyn y camau priodol o ran diwydrwydd dyladwy, llwyddodd PyC i brynu’r busnes yn uniongyrchol er mwyn ei gynnal fel busnes allweddol yn y cwm.

Bellach, mae’r gwesty yn is-fusnes i PyC CIC, ac yn cael ei reoli a’i redeg ar ran y gronfa gan dîm lleol o staff a bwrdd o gyfarwyddwyr. Mae’r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu’r gwerth mae PyC CIC yn ei roi ar yr angen i sicrhau llety o ansawdd da i ymwelwyr i Gwm Afan, fel conglfaen i ddatblygiad economaidd pellach yn yr ardal.

Hyd yn hyn rydym wedi cefnogi Afan Lodge gyda buddsoddiad sylweddol i foderneiddio ac uwchraddio’r gwesty, a’i wneud yn weithredol. Er bod y gwaith hwn wedi mynd rhagddo’n llwyddiannus, mae’r Lodge wedi gorfod wynebu llawer o helbulon, Covid a sawl cyfnod clo, ac mae Brexit a’r cynnydd mewn costau byw yn parhau i herio ei broffidioldeb.

Aethom ati’n ddiweddar i gomisiynu adroddiad i edrych i mewn i’r gwerth cymdeithasol a grëwyd hyd yma, a’r opsiynau ar gyfer y gwesty yn y dyfodol; hoffem gael mewnbwn gan bobl, sefydliadau a chymunedau lleol yn yr hyn fydd yn digwydd nesaf: Update on Afan Lodge July 23 – Pen Y Cymoedd Community Fund (penycymoeddcic.cymru)

Beth Nesaf?

Mae’r nodau caffael gwreiddiol – oedd yn cynnwys gwneud y safle’n sefydliad angori wedi’i leoli yn y gymuned, a rhoi hwb i’r economi leol – bellach yn dechrau cael eu gwireddu. Ond mae’r buddsoddiad wedi galw am lawer o arian – dros £1.2m hyd yma. Roedd hwn yn fuddsoddiad mwy nag yr oeddem yn ei ddisgwyl. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn rhyngweithio gyda chymunedau a rhanddeiliaid ym mhob rhan o’r gronfa i ofyn am eu barn ar y buddsoddiad presennol a’i botensial ar gyfer y dyfodol.

Os hoffech rannu eich sylwadau am Afan Lodge, a chael cyfle i ddweud eich dweud, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych chi. Mae croeso i chi gysylltu â: enquiries@penycymoeddcic.cymru / 01685 878785.