Ariannu COVID-19 Cymunedol Brys

1024 560 rctadmin

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn darparu ariannu brys ar garlam ar gyfer sefydliadau yn ardal y Gronfa. Bydd dau edefyn:

  • Y Gronfa Goroesi: darparu cyllid llif arian brys ar gyfer sefydliadau sydd mewn perygl o gau i lawr
  • Y Gronfa Prosiectau: cefnogi gwasanaethau ychwanegol sy’n diwallu anghenion cymunedol yn y dyfodol agos iawn

 

 

Ni fydd ein hariannu’n disodli unrhyw gefnogaeth arall sydd ar gael gan y Llywodraeth – byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym ba gefnogaeth arall rydych wedi ymchwilio iddi neu y byddwch yn ei derbyn o bob ffynhonnell arall, a byddwn efallai yn eich cyfeirio tuag at gefnogaeth ariannu arall sy’n fwy perthnasol a phriodol.

 

Bydd y broses ymgeisio mor syml ag y gallwn ei wneud ac fel arfer bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud a’r arian ei ryddhau o fewn 14 niwrnod.

 

 

Cronfa Goroesi Covid 19

 

Mae’r Gronfa hon wedi’i hanelu at sefydliadau sy’n wynebu problemau llif arian tymor byr neu sydd mewn perygl o gau i lawr oherwydd anawsterau ariannol o ganlyniad uniongyrchol i COVID 19.

 

Er y byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan sefydliadau angor allweddol sy’n cyflwyno gwasanaethau, nwyddau a chefnogaeth yn yr ardal, byddwn yn ystyried ceisiadau gan unrhyw sefydliad sydd mewn perygl o gau i lawr hefyd.

 

Bydd lefel yr ariannu sydd ar gael ar gyfer sefydliadau unigol yn cael ei hasesu ar sail angen.

 

Gall dyfarniadau fod ar ffurf grant neu fenthyciad di-log neu gymysgedd o’r ddau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau unigol.

 

Dylech fedru ateb YDY/YDYM yn bendant i’r cwestiynau hyn:

1.Mae ein hangen am arian yn deillio’n uniongyrchol o effaith COVID-19 a mesurau rhagofal cenedlaethol;

2.Rydym yn ymgeisio am arian i helpu ein sefyllfa llif arian tymor byr;

3.Rydym yn gwybod beth yw ein treuliau misol a faint o incwm rydym yn debygol o’i golli dros y pedwar mis nesaf;

  1. Rydym yn gwybod faint o arian y mae ei angen arnom i barhau fel busnes dros y pedwar mis nesaf – gan gymryd unrhyw gefnogaeth gan y llywodraeth neu gefnogaeth arall y gall y sefydliad ei chyrchu i ystyriaeth

 

Cronfa Prosiectau Covid 19 – gwasanaethau cymunedol hanfodol

 

Nod y Gronfa hon yw cefnogi darpariaeth gwasanaethau ychwanegol neu arloesol i ddiwallu anghenion y gymuned yn y dyfodol agos iawn.

 

Byddwn yn ystyried ceisiadau gan unrhyw sefydliad a all ddarparu gwasanaeth cymunedol priodol.

 

Bydd grantiau hyd at £15,000 ar gael ar gyfer prosiectau unigol.

 

Dylech fedru ateb YDY/YDYM yn bendant i’r cwestiynau hyn:

  • Mae angen yr arian o ganlyniad uniongyrchol i effaith COVID-19 a mesurau rhagofal cenedlaethol;
  • Bydd y prosiect arfaethedig yn cyflwyno gwasanaethau cymunedol hanfodol ychwanegol neu newydd i ymdrin ag anghenion y gymuned yn y dyfodol agos iawn;
  • Rydym yn sefydliad â chyfansoddiad sydd eisoes yn bodoli, gydag adnoddau a chapasiti sydd wedi’u hadnabod

 

I gael mwy o wybodaeth gweler ein tudalen ariannu neu gyrrwch e-bost i enquiries@penycymoeddcic.cymru