Pen y Cymoedd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Cartref

Croeso i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Sefydlwyd y Gronfa gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau hynny sydd yn gartref i’w fferm ynni gwynt ar draws blaenau cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.

Mae gan y Gronfa gyllideb flynyddol o £1.8 miliwn tan 2043, ac mae’n cynnig cyfle eithriadol i bobl leol fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sydd yn dda yn eu cymunedau. Ewch i’r dudalen “Gwnewch Gais am Grant” am ragor o fanylion..

Rheolir y Gronfa gan Gwmni di-elw er Budd Cymunedol sydd yn atebol yn lleol ac yn gwbl annibynnol. Mae gan y Cwmni wyth cyfarwyddwr a thîm o 3 aelod o staff – pob un â chysylltiadau lleol sydd yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cynnal cymunedau. Rydym yma i helpu! Gallwch ddarllen mwy amdanom ni fan hyn.

Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau ar y wefan, ond os na, tarwch nodyn atom ni enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch 01685 878785. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.

Lawrlwythiadau

Mae llawer o ddogfennau defnyddiol ar ein tudalennau Lawrlwytho a Chanllawiau a Chysylltiadau – dogfennau megis canllawiau, fersiwn hawdd ei ddarllen o’n Prosbectws, manylion o grantiau a roddwyd, astudiaethau achos, ein polisïau a dyddiadau ar gyfer ein sesiynau galw-mewn.

Ardal y Gronfa

Yn gyffredinol, y cymunedau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’r trefi a’r pentrefi sydd wedi’u cynnwys yn ardal y Gronfa wedi’u rhestru yma. Os ydych yn ansicr a yw eich sefydliad neu syniadau am gynnig yn dod o fewn yr ardal, cysylltwch â ni. Mae’n bosibl i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i’r ardal, ond mae’n rhaid i’r gweithgaredd neu’r prosiect arfaethedig gynnwys cymunedau oddi mewn iddi, a bod o fudd uniongyrchol iddynt.

Beth yw blaenoriaethau’r Gronfa?

Datblygwyd Prosbectws y Gronfa yn dilyn ymgynghoriad eang yn lleol. Mae’n rhoi i ni fframwaith cychwynnol, a bydd yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Dymunwn gefnogi syniadau arloesol, datblygiad sgiliau, hyfforddiant a menter ac rydym yn awyddus i glywed ac i drafod eich syniadau chi.

Our Funding Priorities – Prospectus – Pen Y Cymoedd Community Fund (penycymoeddcic.cymru)

Dolenni Cyflym

Cael eu Hysbrydoli

Cliciwch yma i ddarllen astudiaethau achos ac ysbrydoli storïau am y grwpiau, busnesau a gweithgareddau a gefnogir gan y gronfa gymunedol

Cael gwybod mwy...

Newyddion Diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Pen y Cymoedd CIC er mwyn cadw lan â’r datblygiadau diweddaraf

RHAGOR O NEWYDDION...

Gwnewch Gais am Gyllid

Dysgwch mwy am y Gronfa, codwch eich pensil a lawr-lwythwch ffurflen gair. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais yn electronig.

SUT I YMGEISIO....

Y newyddion diweddaraf

Cyflwyno’r tîm newydd!
1024 560 rctadmin

Er mwyn cefnogi a rheoli’r Gronfa Gymunedol, mae aelodau Bwrdd Cwmni Buddiannau Cymunedol Pen-y-Cymoedd wedi bod yn brysur yn penodi dau aelod newydd o staff: Barbara Anglezarke yw Cyfarwyddwr Gweithredol y Gronfa a hi sy’n gyfrifol am reoli’r Gronfa o ddydd i ddydd a darparu arweinyddiaeth strategol. Mae Barbara wedi rheoli rhaglenni grant yn y…

Darllen mwy
Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen-y-Cymoedd yn barod i’w lansio
1024 560 rctadmin

Ar 5 Rhagfyr, caiff y Gronfa Grantiau Bychain ei lansio a gwahoddir ceisiadau ar gyfer y cylch cyntaf. Sefydlwyd y Gronfa Grantiau Bychain er mwyn cynnig grantiau untro gwerth hyd at £5,000 i gefnogi agweddau pwysig ar fywyd cymunedol a helpu i ddatblygu menter.  Gall roi grant i brynu eitemau bach o gyfarpar, gweithgareddau ac…

Darllen mwy