Y Sgowtiaid yn troi’n Wyrdd

913 720 rctadmin

Ym mis Medi 2023, cysylltodd y 13eg Grŵp Sgowtiaid Cwmgwrach â’r gronfa. A hwythau wedi eu sefydlu yn 1980 gyda tua 50 o aelodau a 12 o wirfoddolwyr, maen nhw’n grŵp cryf sy’n darparu gweithgareddau ardderchog i bobl ifanc yn yr ardal.

Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd Neuadd y Sgowtiaid wedi dioddef o ganlyniad i lifogydd difrifol, ac yn sgil hynny gwnaed niwed mawr i’r adeilad a chollwyd sawl darn o offer. Daethant atom ni i ofyn am help gyda drysau, ffenestri a rheiddiaduron newydd; roedden nhw wedi bod yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod modd defnyddio’r Neuadd unwaith eto, ac yn gweld hyn fel cyfle i wneud yr adeilad hyd yn oed yn well.

Byddai hyn yn helpu i orffen y gwaith adnewyddu i wneud yr adeilad yn dwymach a mwy cyfforddus, a lleihau costau ynni. Yn sgil hyn, roeddem yn falch o ddyfarnu grant y Gronfa Feicro i’r sgowtiaid; rhyw fis neu ddau yn ddiweddarach cafwyd y newyddion da y byddai’r cwmni yswiriant yn talu am y rheiddiaduron. Ad-dalwyd rhan fechan o’r grant, ac felly y swm terfynol a ddyfarnwyd iddynt oedd £3,965.

“Roeddem wedi eu cefnogi oherwydd ein bod yn awyddus i weld gofodau cymunedol sy’n bleser eu defnyddio ac yn addas i’r pwrpas, ac roeddem yn falch o weld eu hawydd i ystyried hyn fel cyfle i uwchraddio’r adeilad a’i addasu ar gyfer y dyfodol. Wrth iddyn nhw ailagor Neuadd y Sgowtiaid yr wythnos hon, mae’n amlwg eu bod wedi gweithio’n galed yno ac y bydd yn cael defnydd cyson a phob gofal. Mwynhewch, a dal ati gyda’r gwaith da.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol