Diweddariad ar fuddsoddiad Pen y Cymoedd yn yr Afan Lodge

1024 876 rctadmin

Mae adeilad mewn lleoliad hyfryd yng Nghwm Afan, a godwyd yn wreiddiol fel sefydliad y glowyr, ond sydd bellach yn westy, yn gweithio’n galed ar hyn o bryd i ddiogelu ei ddyfodol ar ôl iddo dderbyn buddsoddiad sylweddol gan Pen y Cymoedd.

Tra bod rhagolygon yr Afan Lodge eiconig yn parhau’n ansicr, mae’r buddsoddwyr a’r tîm rheoli yno yn benderfynol o ryddhau ei lawn botensial a mentro cymryd cam newydd yn ei hanes.

Prynwyd Afan Lodge yn Nuffryn Rhondda gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn 2019 i’w achub rhag cau’n barhaol. Ers hynny, mae’r Gronfa wedi buddsoddi yn y gwesty trwy foderneiddio’r ystafelloedd gwely, y lolfa, a’r ardaloedd bwyta, gan sicrhau swyddi i 32 o’r staff a darparu adnodd cyfoes ar gyfer y gymuned leol.

Fodd bynnag, ers derbyn y buddsoddiad gan Pen y Cymoedd, mae’r gwesty wedi wynebu cyfnod hynod heriol. Mae’r pandemig, ynghyd â’r argyfwg costau byw a’i dilynodd, wedi creu rhwystrau sylweddol i sicrwydd y busnes yn y tymor hir.

Dywedodd Martin Veale, Cadeirydd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd: “Cymerwyd y penderfyniad i brynu Afan Lodge oherwydd ein bod yn awyddus i helpu yn y gwaith o ddiogelu ac adnewyddu adnodd lleol  sy’n boblogaidd yn y gymuned ac yn cael ei werthfawrogi ganddi. Ers i ni gymryd drosodd, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i helpu i sicrhau dyfodol y gwesty. Rydym nid yn unig wedi cynnal swyddi ar gyfer aelodau o’r gymuned leol, ond hefyd wedi buddsoddi mewn gwaith adnewyddu ac ailwampio i wella’r cyfleusterau. Er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu adnoddau’r gwesty, rydym yn cefnogi’r tîm i helpu gyda’r gwaith o ddatblygu cynllun strategol tymor-hir i ddiogelu ei ddyfodol. Mae Afan Lodge yn ased cymunedol hynod werthfawr, a gyda chefnogaeth gyson y gymuned leol rydym yn gwneud pob ymdrech bosibl i wireddu ein dymuniad ni oll o’i weld yn datblygu’n llwyddiant ysgubol.”

Mae penodi rheolwr cyffredinol newydd, a chanddo gefndir ym maes twristiaeth, yn cynnig cyfle newydd a chyffrous i’r gwesty wrth iddo weithio tuag at amrywio a thyfu cynlluniau’r gwesty i’r dyfodol. Dywedodd Simon Bevan, y rheolwr: “Fel sefydliad sy’n gyflogwr yn y gymuned ers blynyddoedd lawer, ac sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn yr ardal, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddatgloi ei botensial, ehangu’r hyn y mae’n ei gynnig, a gwneud newidiadau positif er budd y busnes, y gymuned leol, ac Afan Lodge; fodd bynnag, mae’r diwydiant lletygarwch yn wynebu nifer o heriau, ac rydym wedi penderfynu cau ar ddau ddiwrnod tawelaf yr wythnos fel mesur dros dro i arbed arian.  Diolch i gefnogaeth gyson ein cwsmeriaid ffyddlon a’n staff, rydym ar agor fel arfer o ddydd Mercher i ddydd Sul ar gyfer aros dros nos, bwyd a diod, ac adloniant, ac fel adnodd i’r gymuned. Er taw ein gobaith yw gweld Afan Lodge yn parhau i gyrraedd ei nod o fod yn ganolfan gymunedol, yn gyflogwr, a chyfrannu at yr economi leol a’r gadwyn gyflenwi, mae angen i ni wneud hynny tra ar yr un pryd yn sicrhau ein bod yn parhau’n gynaliadwy yn y dyfodol hir-dymor.”

Mae Afan Lodge mewn lleoliad naturiol, gwefreiddiol, ac yn darparu cyfleusterau gwych i’r bobl leol a’r gymuned ehangach fel ei gilydd, tra hefyd yn denu ymwelwyr i’r ardal. Yn ogystal â chynnig ystafelloedd gwely modern i westeion sy’n aros dros nos, mae’r tŷ bwyta’n dod yn fwyfwy poblogaidd, a chaiff y cyfleusterau cynadledda eu defnyddio’n rheolaidd gan fusnesau lleol a grwpiau cymunedol.

Am ragor o wybodaeth am Afan Lodge, a hanes y buddsoddiad a wnaed ynddo, ewch i: https://penycymoeddcic.cymru/pen-y-cymoedd-investments/