Cwlfert a Meithrin – Grant Cronfa Micro

1024 560 rctadmin

Mae Pwyllgor Cymdeithas Rhandiroedd Cwmparc Uchaf a Deiliaid y Plotiau wrth eu bodd â’r prosiect.  Roedd gofyn am un dyfynbris yn unig yn gwneud y broses yn llawer haws.  Buom yn ffodus iawn i ddod o hyd i gontractwr a oedd yn fodlon ac yn gallu gwneud y gwaith a’i cwblhaodd i’n gofynion mewn modd amserol.  Pan brynwyd yr offer, daeth y rhain yn y pen draw oddi wrth gyflenwr lleol.  Roedd yr hyblygrwydd i wario’r arian i’r gwerth a dderbyniwyd gan unrhyw gyflenwr yn gweithio’n dda iawn ac rydym yn gwerthfawrogi gallu cefnogi busnes lleol.

Aethom at y gronfa oherwydd i ni nodi mater (y cwlfert) ac angen (yr offer) na allai’r cronfeydd presennol ei ddiwallu ac na allem yn realistig godi o fewn amserlen resymol heb gymorth grant.

Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr, mae deiliaid lleiniau bellach yn gallu cael mynediad diogel i’w lleiniau.  Mae deiliaid lleiniau newydd yn gallu benthyca offer ac mae hyn yn golygu bod cael llain, yn enwedig yn y dyddiau cynnar pan fo popeth yn newydd ac efallai nad oes gan ddeiliaid lleiniau eu hoffer eu hunain, yn llawer mwy hygyrch.  Mae’r deunydd sy’n atal chwyn yn help mawr i’r holl ddeiliaid lleiniau ac yn lleihau gwaith ac yn helpu i gynnal a chadw’r safle dros fisoedd y gaeaf.  Mewn rhyw ffordd neu’i gilydd mae holl ddeiliaid lleiniau wedi elwa o elfen o’r grant hwn, neu y byddant yn elwa.

Mae’r gymdeithas rhandiroedd yn gwneud yn dda, mae gennym bwyllgor gweithgar, deiliaid lleiniau â diddordeb a rhestr aros ar gyfer lleiniau.  Rydym wedi trafod casglu gwastraff rhad ac am ddim rheolaidd gyda’r awdurdod lleol a nesaf byddwn yn edrych i newid/gwella peth o’r ffens allanol fel rhan o’r cynllun parhaus i wella effaith weledol a diogelwch y safle. Diolch Pen y Cymoedd”