Rhaglen Disgyblion Cydnerthol gydag Ymddiriedolaeth Ddatblygu Call of the Wild

649 723 rctadmin

“Diolch i arian a dderbyniwyd yn ddiweddar oddi wrth Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, llwyddwyd i gyflenwi’r Rhaglen Cydnerthedd yn llwyddiannus i 26 o blant yn Ysgol Gynradd Cwmnedd.

  • Dros gyfnod o bum diwrnod, gosodwyd cyfres o dasgau heriol i’r plant oedd yn gweithio fel rhan o dîm.
  • Roedd ein tasg ‘Bore Da’ yn eu hannog i fabwysiadu’r arfer o ysgwyd llaw a chyfarch ei gilydd bob bore mewn modd blaengar a hwyliog. Erbyn y pumed diwrnod, roedden nhw’n gwbl gyfforddus gyda’i gilydd. Gan fod hon hefyd yn dasg gorfforol, roedd yn rhoi egni iddynt bob bore ar gyfer y dydd o’u blaenau.
  • Roedd yr wythnos wedi ei strwythuro o amgylch y 4 C, sef Control, Commitment, Challenge a Confidence. Penodwyd un dydd ar gyfer bob un o’r pynciau hyn, gyda thasgau’n cael eu cynllunio i herio’r plant.
  • Ar y diwrnod wedi’i benodi i Commitment/Ymrwymiad, rhannwyd hwy’n dimau lle roedd yn rhaid iddyn nhw gyfathrebu â’i gilydd a gweithio drwy gydol y dydd i adeiladu rhan o strwythur. Hwn yw ein ‘Peiriant Tîm’, yr unig un o’i fath yn y byd. Ar ddiwedd y dydd, roedden nhw’n sylweddoli bod y rhan roedd pob tîm yn ei hadeiladu yn cysylltu â’r holl rannau eraill i ffurfio ‘peiriant’. Roedden nhw wrth eu bodd pan daniwyd y peiriant, gan orffen gyda rhyddhau canon o gonffeti. Roedd hyn yn dangos pa mor effeithiol yw gwaith tîm ac ymroddiad wrth gwblhau tasgau.
  • Gosodwyd her i’r plant trwy fynd â nhw ar ddiwrnod o weithgareddau awyr agored, a dreuliwyd yn cerdded ceunentydd a dringo. Roeddem yn eu gwthio mas o’u byd cyfforddus a phrofi’r sgiliau roeddynt wedi eu dysgu yn ystod yr wythnos. Roedd yn ddiddorol eu gweld yn annog a chefnogi ei gilydd, ac yn goresgyn eu hofnau eu hunain. I’r plant, roedd y teimlad o gyflawniad yn aruthrol.

‘Ar y dechrau, roedd y disgyblion yn bryderus ynghylch beth roedd y rhaglen yn ei olygu, ond wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen maen nhw’n sicr wedi gwella o ran eu hagwedd tuag at wynebu heriau. Bydd cysyniad y ‘Chimp Paradox’ yn sicr yn eu helpu, ac mae’n fodel grêt ar gyfer plant – gallwn ei gynnwys yn ein hymarfer bob dydd yn y dosbarth. Credaf taw’r pethau roedd y plant wedi eu mwynhau fwyaf oedd y gweithgareddau awyr agored a diwrnod y peiriant tîm. Bydd symud i’r ysgol uwchradd yn gyfnod pryderus iddyn nhw, ac yn ystod yr wythnos hon maen nhw wedi dysgu sgiliau fydd yn eu helpu. Mae’r wythnos wedi bod yn wych, diolch yn fawr.’  – Chris Horrell, Athro Blwyddyn 6, Ysgol Gynradd Cwmnedd

Diolch o galon oddi wrth bawb yn y tîm yn Ymddiriedolaeth Ddatblygu Call of the Wild am eich cefnogaeth. Ein nod oedd rhoi profiadau bythgofiadwy i’r plant, gwella llesiant meddyliol a chorfforol, a chyflwyno sgiliau bywyd hanfodol ac arferion da i’w paratoi ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau, ac rydych chi wedi ein helpu i gyflawni hyn oll!”