£5000 wedi’i ddyfarnu i Neuadd Gymunedol Abergorki

791 495 rctadmin

Pan aeth Pen-y-Cymoedd i ymweld â Neuadd Gymunedol Abergorki i gwrdd â grŵp sydd wedi’i leoli yno, roedd yn amlwg bod angen adnewyddu’r toiledau lawr staer yn llwyr. Ar ôl trafod y broblem gydag ymddiriedolwyr y neuadd, cawsant amcan-bris a chyflwyno cais i’n Cronfa Feicro am gymorth.

Mae ymddiriedolwyr y neuadd yn gweithio’n ddiflino i ofalu am y lleoliad, a thros y blynyddoedd diwethaf maent wedi wneud gwaith i wella’r fynedfa, y toiledau lan staer, offer y gampfa, a gosod offer solar. Buont yn llwyddiannus yn eu cais am arian cyfatebol gan ymddiriedolaeth Coalfields, a bellach mae’r gwaith bron wedi’i orffen. Mae’r toiledau’n edrych yn wych – maen nhw’n hygyrch, ac yn llawer mwy addas ar gyfer y defnydd a wneir o’r neuadd.

Mae Neuadd Gymunedol Abergorki wedi bod yn gwasanaethu’r gymuned ers blynyddoedd lawer; mae’n lleoliad poblogaidd iawn, gyda champfa brysur, grŵp celf preswyl, pum grŵp crefft ymladd, a grŵp amgylcheddol, a chynhelir gwersi cerddoriaeth yno.

Dymuna ymddiriedolwyr Neuadd Gymunedol Abergorki ddiolch unwaith eto i fferm wynt Pen-y-Cymoedd am helpu ein neuadd, sy’n cael llawer iawn o ddefnydd. Rydym wedi bod yn ymdrechu ers blynyddoedd lawer i osod toiledau i’r anabl fel bod modd i bawb yn yr ardal – yn cynnwys rhai sy’n defnyddio cadair olwyn – wneud defnydd o’n cyfleusterau. Ni fyddai modd i ni fod wedi dechrau a chwblhau’r ychwanegiad hanfodol hwn i’r neuadd heb gymorth cyson gan fferm wynt Pen-y-Cymoedd. Estynnwn ein dymuniadau gorau i’r sefydliad hwn. Ymddiriedolwyr y Neuadd.”