Creu Swyddi: Paratoi’r Ffordd at Ddyfodol Mwy Disglair

1024 560 rctadmin

Oeddech chi’n gwybod bod cyllid PyC wedi creu dros 25 o swyddi ac wedi helpu i gefnogi a chynnal 156 o swyddi pellach yn ardal y gronfa hyd yn hyn?

Fel cronfa, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a thyfu busnesau lleol,  creu cyfleoedd gwaith, a denu menter a buddsoddiad i’r ardal, gan greu swyddi diogel o ansawdd uchel.

Mae’r gronfa wedi ymrwymo i ariannu mentrau sydd yn:

  • Datblygu sgiliau swyddi’r dyfodol.
  • Cefnogi busnesau lleol i gynnal swyddi a thwf.
  • Cefnogi pobl leol ar eu taith tuag at gyflogaeth drwy ddileu rhwystrau o bob math i gyflogaeth ar bob cam ac ar gyfer pob oed
  • Datblygu swyddi sy’n canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, adfer natur a gwneud gwelliannau amgylcheddol
  • Codi dyheadau cyflogaeth pobl, yn enwedig pobl ddifreintiedig sy’n byw yn y cymoedd
  • Annog entrepreneuriaeth, unig fasnachwyr, mentrau cymdeithasol, a chwmnïau cydweithredol
  • Darparu swyddi diogel o safon

Mae’r gymuned am i’r gronfa fod yn eiriolwyr dros arloesi a chyflogaeth, felly rydym yn parhau i weithio gydag asiantaethau cymorth busnes, awdurdodau lleol, a phartneriaid eraill. Rydym yn sicrhau bod busnesau o bob math yn cael y datblygiad a’r cymorth parhaus sydd eu hangen arnynt, ac rydym yn gweithio i drosoli hynny i ardal y gronfa.

Mae’r gronfa wedi cefnogi a bydd yn parhau i gefnogi ystod eang o sefydliadau gan gynnwys er enghraifft:

  • Manwerthwyr annibynnol / busnesau lleol
  • Addysg gymunedol i oedolion
  • Addysg a chyflogaeth ieuenctid
  • Siambrau masnach
  • Grwpiau cymdeithasol, gwirfoddol, chwaraeon a
  • hybiau cymunedol
  • Mentrau cymdeithasol

Rydym yn parhau i hyrwyddo a chefnogi creu swyddi diogel o ansawdd uchel a dyma rai o’r enghreifftiau o swyddi a grëwyd/cynhaliwyd/cefnogwyd gan PyC:

Eleri Walters, Rheolwr Cangen Cwm Cynon, Smart Money Cymru:

“Mae’r swydd hon wedi fy ngalluogi i ddod yn fwy hyderus ac ennill sgiliau mewn diwydiant newydd, tra’n gweithio yn y gymuned rwy’n ei charu.”

Sarah Sutton, Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Gŵyl Celfyddydau Cwm Rhondda

“Rwyf mor ddiolchgar am y cyllid gan Ben y Cymoedd sy’n fy nghefnogi yn fy rôl fel cyfarwyddwr yr ŵyl ar gyfer Gŵyl Celfyddydau’r Rhondda. Mae’n anhygoel gallu treulio fy amser yn cynnal gŵyl gelfyddydol yn fy ardal leol, ac rwyf wrth fy modd â’r holl rwydweithio a chysylltiadau yr wyf yn eu gwneud trwy’r rôl hon.

Claire Pritchard, Swyddog Datblygu Prosiect Hawliau Plant, Uned Hawliau Plant

“Rwy’n angerddol am hawliau plant ac yn rhannu’r neges i sicrhau bod pob plentyn ac oedolyn yn gwybod amdanynt. Mae gan blant yr hawl i fod yn hapus, yn ddiogel, a theimlo eu bod nhw wir yn bwysig.”

Gavin Simons a Shanice Francis, Adsefydlu Niwrolegol Cymru

“Am gyfle gwych i ymuno â ANC! mae gweithio mewn amgylchedd mor ddiogel a chyfforddus yn rhoi boddhad mawr”

Shannon Bowditch, Cydlynydd Chwarae, Little Lincs, Cynon Linc

‘Mae fy swydd yn Little Lincs yn golygu llawer i mi gan fy mod yn darparu gweithgareddau hwyliog a deniadol i blant o bob oed mewn amgylchedd cymunedol.’

Josh Conroy, gweithiwr derbynfa / gweinyddol, Cynon Linc

‘Rwy’n caru fy swydd gan fod gen i angerdd dros y gymuned hon a’r bobl ynddi. Rwy’n teimlo bod yr hyn a wnawn yma yn cael effaith gadarnhaol aruthrol ar Aberdâr a’r ardaloedd cyfagos ac rwy’n falch o fod yn rhan ohono’.

Kelsey a Tamara, Tîm Datblygu Theatr a Digwyddiadau, Cymdeithas Gymunedol Cwmparc

(wedi’i ariannu gan PyC a Chronfa Adfywio’r Meysydd Glo (roedd y CCA yn gallu cyfateb PyC i gyflogi 2 aelod o staff yn lle un).

“Rydym yn ffodus ein bod yn gallu gweithio yn ein cymuned leol mewn rolau y mae’r ddwy ohonom yn angerddol amdanynt.  Mae helpu i ddatblygu Canolfan annwyl iawn yr oedd y ddwy ohonom yn ei defnyddio yn ystod ein plentyndod a’i gweld yn cael ei hadfywio at ddefnydd cymunedol yn rhoi cymaint o foddhad.”