Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen-y-Cymoedd yn barod i’w lansio

1024 560 rctadmin

Ar 5 Rhagfyr, caiff y Gronfa Grantiau Bychain ei lansio a gwahoddir ceisiadau ar gyfer y cylch cyntaf. Sefydlwyd y Gronfa Grantiau Bychain er mwyn cynnig grantiau untro gwerth hyd at £5,000 i gefnogi agweddau pwysig ar fywyd cymunedol a helpu i ddatblygu menter.  Gall roi grant i brynu eitemau bach o gyfarpar, gweithgareddau ac ariannu digwyddiadau, prosiectau, busnesau newydd a chyrsiau hyfforddi. Mae pecynnau gwneud cais a chanllawiau ar gael yma ar ein gwefan (a thrwy gysylltu â’n swyddfa yn Aberdâr) – y dyddiad cau yw 13 Chwefror 2017, felly mae pethau yn symud ymlaen bellach! Bydd y Gronfa yn weithredol am 20 mlynedd, felly peidiwch â phoeni os nad ydych yn barod i gyflwyno cais ar unwaith. Bydd o leiaf ddau gylch o’r Gronfa Grantiau Bychain bob blwyddyn.

Bydd Cronfa ‘Vision’ yn cynnig grantiau a benthyciadau mwy o faint ar gyfer gweithgareddau sy’n helpu i gyflawni un neu fwy o’r blaenoriaethau a nodir yn y Prosbectws. Bydd angen i gynigion ddangos sut y caiff manteision hirdymor eu sicrhau.  Gwahoddir ceisiadau ar gyfer cylch cyntaf Cronfa ‘Vision’ yn ystod gwanwyn 2017.