Mae 4edd rownd y Gronfa Grantiau Bychain nawr ar agor!

757 664 rctadmin

Mae 4edd rownd y Gronfa Grantiau Bychain nawr ar agor – y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Llun 20 Awst 2018.

Mae grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a busnesau newydd/sy’n datblygu yn gymwys i ymgeisio am grantiau hyd at £5,000. Gallwch weld manylion yr holl brosiectau a gefnogwyd hyd yn hyn yma a darllen astudiaethau achos mwy manwl yma.

Gellir gwneud cais ar-lein o fis Gorffennaf – cewch wybod rhagor yma: https://penycymoeddcic.cymru/cy/y-gronfa-grantiau-bychain/

Byddai’n well o lawer gennym gael sgwrs â chi am eich cynnig cyn i ni dderbyn eich cais. Gallwn gynnig cyngor, rhoi awgrymiadau, awgrymu pobl y byddai’n dda siarad â hwy – ac arbed amser ac egni i chi!

Gallwch ein ffonio ni, anfon neges atom, neu ddod draw i gael sgwrs anffurfiol gyda ni ar un o’r diwrnodau cyngor isod – cysylltwch â 01685 878785 neu e-bostiwch enquiries@penycymoeddcic.cymru i archebu slot am apwyntiad.

Dydd Gwener

29 Mehefin

 

Y Gronfa Grantiau Bychain Neuadd Morlais, Glynrhedynog, CF43 4PS

 

Rhondda 12.00 tan 5.00
Dydd Mercher

4 Gorffennaf

 

Y Gronfa Grantiau Bychain Llyfrgell Cymer Afan, SA13 3HR

 

Afan 9.00 tan 1.00
Dydd Iau

5 Gorffennaf

 

Y Gronfa Grantiau Bychain Ein swyddfeydd yn Aberdâr, CF44 8DL

 

Cynon 2.00 tan 6.00
Dydd Iau

19 Gorffennaf

 

Y Gronfa Grantiau Bychain Neuadd bentref Pontneddfechan Nedd 9.00 tan 1.30

 

Cynghorion ar gyfer gwneud eich cais i’r Gronfa Gronfa Grantiau Bychain

  • Siaradwch â ni cyn i chi daro gair ar bapur neu ar fysellfwrdd!
  • Darllenwch y ffurflen a’r canllawiau yn ofalus – ffoniwch ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.
  • Atebwch y cwestiynau
  • Gofalwch eich bod yn esbonio yr hyn yr hoffech chi ei wneud mewn modd mor glir a chryno â phosibl.
  • Dywedwch wrthym yn union pwy fydd yn elwa a sut – pa wahaniaeth y bydd y prosiect yn ei wneud?
  • Pam mai hwn yw’r peth y mae ei angen arnoch fwyaf – beth yw’ch cynlluniau
  • Gofalwch eich bod yn cael dyfynbrisiau a phrisiadau manwl gywir am y gwaith neu’r pwrcasau arfaethedig.
  • Dywedwch wrthym pwy fel arfer sy’n defnyddio eich gweithgareddau / busnes – faint mae pobl yn ei dalu i gymryd rhan.
  • Cyn i chi ei gyflwyno, gofynnwch i rywun nad oed gennych gysylltiad â hwy i ddarllen eich cais a rhoi adborth i chi.