CYFLOGI GWEITHIWR CYNNAL A CHADW PYLLAU GLYNCORRWG

1024 576 rctadmin

CYFLOGI GWEITHIWR CYNNAL A CHADW
PYLLAU GLYNCORRWG

£5,000 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWE 2017

O ganlyniad i egni ac ymrwymiad aelodau’r gymuned leol sy’n benderfynol o fanteisio i’r eithaf ar eu lleoliad tirwedd anhygoel, mae Pyllau a Chanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg yn fyd-enwog. Mae’r Ganolfan yn ganolbwynt ystod helaeth o lwybrau wedi’u marcio ar gyfer cerddwyr ac yn lleoliad o safon fyd-eang ar gyfer beicwyr mynydd ac amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored eraill – marchogaeth, pysgota, fforio treftadaeth. Mae cyfleusterau gwersylla, hurio beiciau mynydd a chaffi ar y safle.

Roedd y cais ar gyfer cyflogi a hyfforddi swydd tymor byr i wneud gwaith atgyweirio a gwelliannau. Mae’r Ganolfan a’i llwybrau’n ased enfawr i’r cwm, gan barhau i ddenu ymwelwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig a’r tu hwnt i’r ardal.

“Cyflogwyd gweithiwr newydd i gyflwyno’r prosiect. Ymysg y gwaith a gyflawnwyd oedd newid a thrwsio cledrau llaw a grisiau a oedd wedi eu difrodi o gwmpas y pyllau, rhoi ymylon ar y llwybrau, tynnu chwyn pwll Canadaidd a helpu gyda deciau newydd a phaentio rhannau blaen y ganolfan ymwelwyr. Hyfforddwyd y cyflogai gan reolwr ac roedd y gwaith tîm rhwng y cyflogai a’r rheolwr yn effeithlon iawn. Cafodd ein llwybrau troed, pyllau a chanolfan ymwelwyr i gyd eu gwella gan y prosiect. Mae cymunedau lleol ac ymwelwyr wedi elwa o’r gwelliannau – achoswyd oedi i’r gwaith gan dywydd gwael yn yr haf a’r hydref a byddwn yn gofyn am dywydd gwell y tro nesaf.” – Neil Bevan, Canolfan Ymwelwyr Pyllau Glyncorrwg

“Roedd yr angen y gwaith atgyweirio’n glir, ac roedd cyflogi a hyfforddi swydd tymor byr yn ddull creadigol o wneud y gwaith gan alluogi gwelliannau i wella’r ganolfan a chynnig cyflogaeth. Darparwyd arian cyfatebol o’u cronfeydd eu hunain ynghyd â grant y gronfa ac mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol i bawb – dymunwn y gorau i’r Pyllau wrth iddynt barhau i wella ac esblygu.” – Barbara, Pen y Cymoedd