EIN MYNYDD NI

362 362 rctadmin
VISION FOUNTAIN CIC
£1,250 – CRONFA MEICRO – CHWEF 2017
 
Daeth Vision Fountain atom ni ar gyfer grant bychan o £1,250 i ychwanegu at grant o £10,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru.  Roedd y prosiect yn cynnwys 40 o blant o Ysgol Gynradd Pen Pych (Rhondda) ac Ysgol Gynradd Rhigos (Cynon) er mwyn creu ffilm unigryw am fynydd y Rhigos sydd yn cysylltu’r ddwy ysgol. Adroddodd y plant am bwysigrwydd y mynydd i’r gymuned gyfan ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys ei etifeddiaeth ynni, o lo o wynt. Roedd y plant yn cymryd rhan mewn gweithdai ffilm a ffotograffiaeth gan gynnwys technegau golygu a recordio sain.
 
Roedd hyn yn gais cyffrous oedd nid yn unig yn datblygu sgiliau pobl ifanc, ond eu helpu nhw i edrych mewn dyfnder ac i ystyried a gwerthfawrogi eu cynefin, eu cymunedau a’u treftadaeth. Roedd yn uno plant ar naill ochr o fynydd gan greu cysylltiadau a fydd, gobeithio, yn parhau.”   Barbara Anglezarke (Cyfarwyddwr Gweithredol Pen y Cymoedd).
 
“Roedd hwn yn brosiect aml-gyfryngol arloesol gan ddefnyddio technegau ffilmio, animeiddio a thrafodaeth yn yr ysgolion. Y plant, 59 ohonynt, a greodd yr holl delweddau gweledol a sain a ddefnyddiwyd yn y ffilm. O fewn y gweithdai roedd y plant yn edrych ar lyfrau a dogfennau hanesyddol ac fe’u hanogwyd i gasglu straeon gan eu teuluoedd. Y plant oedd y grym creadigol yn y prosiect.
Pendraw’r gwaith oedd dangos y ffilm yn y Parc a’r Dâr, ar gyfer y 59 plentyn, a’u hathrawon a’u rhieni, a gallwch chi weld y fideo yma: https://vimeo.com/260797926Roeddem ni wrth ein bodd gydag adwaith y dysgwyr iau a’r sylwadau gan athrawon, a theimlwn bod y gwaith wedi cyflawni mwy o ran llythrennedd a lles cyffredinol nag oeddem wedi rhagweld. Roedd llai o gyfraniad gan rieni nag yr oeddem wedi rhagweld ac os y gwnawn rhywbeth tebyg yn y dyfodol byddwn yn cynnal gweithdai o flaen llaw er mwyn ehangu dealltwriaeth o’r technegau aml-gyfyngol s ddefnyddir.
Gwaddol y prosiect yw’r sbardun a roddwyd i greadigrwydd digidol, yn enwedig ffotograffiaeth, creu lluniau ac animeiddio ymhlith plant. Llwyddwyd hefyd i roi hwb i dreftadaeth, hanes a daearyddiaeth yn lleol.”   – Richard Jones, Vision Fountain CIC
 
“Roedd y plant wedi profi’r celfyddydau mewn modd sydd ddim fel arfer ar gael yn ein hysgol ni” – Mrs Morgan.
 
Dyfyniadau gan y plant:
“Roedd yn wych cael gweld wynebau fy ffrindiau gorau ar y sgrin / Roeddwn i’n mwynhau’r cyfle i ddefnyddio’r camerâu / Roedd y ffotograffiaeth yn hwyl  /  Dysgais i bod ffotograffiaeth yn hawdd pan rydych chi’n dysgu a deall.