Mae 4edd rownd y Gronfa Grantiau Bychain nawr ar agor – y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Llun 20 Awst 2018.
Mae grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a busnesau newydd/sy’n datblygu yn gymwys i ymgeisio am grantiau hyd at £5,000. Gallwch weld manylion yr holl brosiectau a gefnogwyd hyd yn hyn yma a darllen astudiaethau achos mwy manwl yma.
Gellir gwneud cais ar-lein o fis Gorffennaf – cewch wybod rhagor yma: https://penycymoeddcic.cymru/cy/y-gronfa-grantiau-bychain/
Byddai’n well o lawer gennym gael sgwrs â chi am eich cynnig cyn i ni dderbyn eich cais. Gallwn gynnig cyngor, rhoi awgrymiadau, awgrymu pobl y byddai’n dda siarad â hwy – ac arbed amser ac egni i chi!
Gallwch ein ffonio ni, anfon neges atom, neu ddod draw i gael sgwrs anffurfiol gyda ni ar un o’r diwrnodau cyngor isod – cysylltwch â 01685 878785 neu e-bostiwch enquiries@penycymoeddcic.cymru i archebu slot am apwyntiad.
Dydd Gwener
29 Mehefin
|
Y Gronfa Grantiau Bychain | Neuadd Morlais, Glynrhedynog, CF43 4PS
|
Rhondda | 12.00 tan 5.00 |
Dydd Mercher
4 Gorffennaf
|
Y Gronfa Grantiau Bychain | Llyfrgell Cymer Afan, SA13 3HR
|
Afan | 9.00 tan 1.00 |
Dydd Iau
5 Gorffennaf
|
Y Gronfa Grantiau Bychain | Ein swyddfeydd yn Aberdâr, CF44 8DL
|
Cynon | 2.00 tan 6.00 |
Dydd Iau
19 Gorffennaf
|
Y Gronfa Grantiau Bychain | Neuadd bentref Pontneddfechan | Nedd | 9.00 tan 1.30 |
Cynghorion ar gyfer gwneud eich cais i’r Gronfa Gronfa Grantiau Bychain
- Siaradwch â ni cyn i chi daro gair ar bapur neu ar fysellfwrdd!
- Darllenwch y ffurflen a’r canllawiau yn ofalus – ffoniwch ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.
- Atebwch y cwestiynau
- Gofalwch eich bod yn esbonio yr hyn yr hoffech chi ei wneud mewn modd mor glir a chryno â phosibl.
- Dywedwch wrthym yn union pwy fydd yn elwa a sut – pa wahaniaeth y bydd y prosiect yn ei wneud?
- Pam mai hwn yw’r peth y mae ei angen arnoch fwyaf – beth yw’ch cynlluniau
- Gofalwch eich bod yn cael dyfynbrisiau a phrisiadau manwl gywir am y gwaith neu’r pwrcasau arfaethedig.
- Dywedwch wrthym pwy fel arfer sy’n defnyddio eich gweithgareddau / busnes – faint mae pobl yn ei dalu i gymryd rhan.
- Cyn i chi ei gyflwyno, gofynnwch i rywun nad oed gennych gysylltiad â hwy i ddarllen eich cais a rhoi adborth i chi.