Grant gan y Gronfa Grantiau Bychain: £3425.00

510 501 rctadmin

Derbyniodd Prosiect Ieuenctid Blaenllechau grant o £3425 gan y Gronfa Grantiau Bychain ar gyfer eu Prosiect Dawns a Drama Blaenllechau. Cynhaliwyd sesiynau dawns a drama wythnosol gyda sioeau ac arddangosiadau fel uchafbwynt. Rhoddwyd sioe ymlaen yn Neuadd Morlais ar gyfer cyfeillion a theuluoedd yn ogystal â pherfformio mewn ffeiriau ysgol, digwyddiadau’r Nadolig a pherfformiad mewn cartref i’r henoed.

 

Adeiladodd y prosiect hyder a hunan-barch y bobl ifanc ac anogodd cymryd rhan yn y gymuned ehangach. Gan i ddau o’r bobl ifanc ennill cymaint o brofiad a hyder trwy’r sesiynau wythnosol, aethant ymlaen i gael clyweliadau a bod yn sêr yn Jack and the Beanstalk yn y Coliseum a’r Park and Dare. Erbyn hyn mae gan y ddau yr hyder a’r dychymyg i ddilyn gyrfa yn y sector celfyddydau perfformio.

 

Dysgodd y plant a phobl ifanc dawnsiau newydd gyda thiwtor dawns ac fe’u hanogwyd i roi eu syniadau eu hunain i’r prosiect i siapio perfformiadau.

 

Aethom â’n sioe at y cartref henoed lleol am y tro cyntaf eleni ac roeddent yn dwlu ar weld y bobl ifanc yn perfformio, byddwn yn dychwelyd yno gan ymgorffori cerddoriaeth o’u dewis nhw, rydym yn credu bod hyn yn helpu’r preswylwyr yno i deimlo’n fwy cysylltiedig â’r gymuned, gan leihau unigedd. Y broblem fwyaf oedd ein bod wedi’n gordanysgrifio ac felly yn 2019 byddwn yn rhedeg 3 sesiwn yr wythnos yn lle 2 i ddarparu ar gyfer mwy o bobl ifanc. Daw prosiectau fel hyn â mwynhad i’r gymuned gyfan, maent yn gwneud i bobl wenu ac yn annog ymdeimlad o berchen a balchder yn y gymuned.” Julie – Prosiect Ieuenctid Blaenllechau

 

mae dawns a drama yn y prosiect hwn yn galluogi pob oedran i gymryd rhan, mae’n rhoi llawer iawn yn ôl i’r gymuned gan mai ychydig iawn sydd yn yr ardal hon ar gyfer plant ifanc”

 “mae mynd i’r dosbarth drama’n ysbrydoliaethus ac yn fy helpu i fynegi fy hun yn hyderus”

mae hi’n dwlu ar fynd i’r sesiynau achos ei fod yn llawer o hwyl ac mae hi wedi gwneud cynifer o ffrindiau newydd”