CADEIRYDD NEWYDD I GRONFA GYMUNEDOL FFERM WYNT PEN Y CYMOEDD

797 720 rctadmin

Pleser o’r mwyaf i ni yw cyhoeddi bod Thomas Jones wedi cael ei enwebu a’i ethol fel Cadeirydd newydd Bwrdd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.

Ymunodd Thomas â’r Bwrdd ym mis Mehefin 2022, ac mae’n gweithio fel Uwch-Gynghorydd Cydymffurfiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Thomas, sy’n byw yng Nghwm Rhondda, yn darparu cyngor ar ofynion cyfreithiol a rheoliadol ar ystod o faterion cydymffurfiaeth yn cynnwys Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a’r Iaith Gymraeg.

Estynnwn ein diolch diffuant i Martin Veale, sy’n gadael ei rôl fel Cadeirydd i ymgymryd â chyfrifoldebau Trysorydd y Gronfa. Rydym yn hynod werthfawrogol o fewnwelediad Martin, ei angerdd, ei ymrwymiad, a’i ymroddiad i helpu cymunedau’r gronfa.