Tafarn a Bwyty Refreshment Rooms yn Y Cymer, Cwm Afan

360 260 rctadmin

Rydym wrth ein boddau â chyhoeddi bod grant wedi’i ddyfarnu gan y Gronfa Gweledigaeth i’r Dafarn a Bwyty Refreshment Rooms hanesyddol yn Y Cymer, Cwm Afan. Yn flaenorol roedd y Refreshment Rooms, a redir gan y perchnogion preswyl Neil a Bethan Little, yn gaffi/bar gorsaf reilffordd ac mae’n cadw ei gymeriad unigryw a gwreiddiol. Er bod llawer o’r cwsmeriaid yn lleol, mae’r ‘Refresh’ yn boblogaidd gyda thwristiaid hefyd – gan gynnwys beicwyr a selogion reilffyrdd treftadaeth.

Bydd y grant o £20,000 yn cefnogi uwchraddiadau a gwelliannau hanfodol i’r adeilad, gan gynnwys newid dodrefn y bwyty, gwella mynediad ar gyfer pobl o bob gallu, gosod ffenestri gwydr dwbl newydd i ostwng costau ynni, gwella’r cyfleusterau toiled ac ailwampio ardal y feranda allanol (sydd â golygfeydd gwych dros y cwm), i alluogi ei defnydd trwy gydol y flwyddyn.

Dros y flwyddyn i ddod, bydd yr oriau coginio’n cael eu hestyn, a’r gobaith yw y bydd nifer y cwsmeriaid yn codi, gan arwain at gyfleoedd cyflogaeth leol pellach. Mae’r Refresh yn lleoliad arbennig yng Nghwm Afan Uchaf, gyda chysylltiadau cryfion â’i orffennol diwydiannol a chan ddarparu gwasanaeth gwerthfawr i aelodau’r gymuned ac i ymwelwyr. Rydym yn falch o fedru cefnogi Neil a Bethan yn eu gwaith er mwyn sicrhau bod yr adeilad hyfryd hwn yn cael ei ddefnyddio’n weithredol ac y gofalir amdano.