Mae plant a phobl ifanc ym Mhentre’n edrych ymlaen at gael llawer o hwyl trwy chwaraeon

1024 506 rctadmin

Diolch i grant o £81,435 gan Gronfa Gweledigaeth Fferm Wynt Pen y Cymoedd. Rydym wrth ein boddau â chyhoeddi’r dyfarniad hwn i Ganolfan Pentre, i gefnogi Ardal Gemau AmlDdefnydd (MUGA) sy’n cael ei gosod ger y lleoliad cymunedol poblogaidd.

Gall llawer o weithgareddau chwaraeon ffurfiol ac anffurfiol ddigwydd mewn MUGA a gallant gael eu defnyddio gan bobl ifanc o bob oedran. Bydd y cyfleuster newydd yn lle i bobl ifanc gwrdd, gwneud ffrindiau a chymdeithasu’n ddiogel – ac mae ei arwyneb caled yn ei wneud yn bosib i ddefnyddwyr cadair olwyn gymryd rhan mewn gweithgareddau neu ddim ond lolian gyda’u ffrindiau.

Bydd yn hyrwyddo ymarfer corff mewn ffordd ddifyr a llawn mwynhad hefyd! Argymhellir y dylai plant rhwng 5 a 18 oed gymryd rhan mewn 60 munud o ymarfer corff bob dydd – a bydd digonedd o gyfle ym Mhentre nawr i wneud hynny. Y cyfan sydd ei angen yw pêl a nifer o ffrindiau!

Meddai Buffy Williams o Ganolfan PentreRydym yn wefr i gyd bod Pen y Cymoedd yn cefnogi ein prosiect MUGA, bydd yr Ardal Gemau AmlDdefnydd hon yn ychwanegiad gwych i ardal y parc, cymuned Pentre a’r cylch. Bydd gwaith adeiladu’n dechrau ym mis Mawrth 2019. Bydd y MUGA yn disodli hen bwll adfeiliedig y parc a bydd ar agor 365 diwrnod y flwyddyn gan ddarparu lle ar gyfer amrywiaeth o gampau. Rydym yn gyffrous iawn ac yn edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn cael ei gwblhau.”

Pam y cefnogwyd y cais hwn?

  • Daeth y cynnig gan y bobl ifanc eu hunain ac fe’i cefnogwyd gan dystiolaeth o ymgynghori lleol cynhwysfawr i gael gwybod beth oedd pobl ei eisiau ac i asesu’r gefnogaeth.

  • Mae Canolfan Pentre’n grŵp sefydledig a chymwys, sy’n chwarae rôl ganolog yn y gymuned ac yn cael ei defnyddio’n gyson gan bobl o bob oedran.

  • Mae safle’r MUGA gyfagos â’r Ganolfan, sy’n edrych drosto, a bydd yn ychwanegiad poblogaidd i’r amrywiaeth o weithgareddau a gynigir.

  • Caiff y cyfleuster ei gynnal gan CBS RhCT dros y tymor hwy.