Mae Pen y Cymoedd yn falch o fod wedi cefnogi Marchnadoedd Lleol Treorci’n ddiweddar, busnes a leolir yn Nhreorci, Rhondda Fawr

691 565 rctadmin

Gyda grant o £12,885.20 gan y Gronfa Gweledigaeth.

Mae Marchnadoedd Lleol Treorci’n rhedeg Marchnad Cynnyrch a Chrefftau Lleol ar yr 2il ddydd Sadwrn o bob mis, gan ddarparu cynnyrch lleol ffres a chrefftau a gynhyrchwyd yn lleol i gwsmeriaid. Hefyd, mae’n cynnig llwyfan am ffi cymedrol i fusnesau bach ac unig fasnachwyr lleol er mwyn gwerthu eu cynnyrch a chynyddu nifer yr ymwelwyr a gweithgarwch ar Stryd Fawr Treorci. Maent yn ehangu hefyd, gyda marchnadoedd dydd Sul, marchnadoedd y Nadolig a llawer o ddigwyddiadau posib eraill trwy gydol y flwyddyn.


Roedd lefel dda o ymchwil a thystiolaeth yn y cynnig a gyflwynwyd i ni. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd ar gyfer cynhyrchwyr, mae’r prosiect yn dod â busnes newydd i fasnachwyr sefydledig Treorci, yn annog busnesau i ddod i mewn o gymunedau Ardal Buddiant eraill ac yn eu hyrwyddo, ac mae’n gwneud defnydd da a chreadigol o safle a ddefnyddiwyd ychydig iawn yn flaenorol.


Mae rhaglen weithgareddau’r farchnad ar gyfer 2019 yn uchelgeisiol ond yn gyffrous. Ymgeisiant i’r Gronfa am gyfarpar hanfodol ar gyfer y safle gan gynnwys 22 gasebo, baneri, byrddau a chadeiriau a generadur. Bydd y cyfarpar a ariannwyd ar gael i grwpiau cymunedol a’r Siambr Fasnach ei ddefnyddio pan nad yw marchnadoedd yn cael eu cynnal, ac yn wir rhoddir benthyg y cyfarpar yn barod ar gyfer Parêd y Nadolig y penwythnos yma. Bydd y cynhwysydd storio a ariannwyd fel rhan o’r grant hwn yn cael ei baentio gan gyfranogwyr Prosiect 42 Clwb Bechgyn a Merched Treorci a Chwmparc gyda ‘Marchnadoedd Treorci’ mewn arddull graffiti.