EWCH ATI I REDEG YM MHEN Y CYMOEDD RHEDEG CYMRU

960 719 rctadmin

£2,500 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – AWST 2017

Rhaglen Rhedeg Cymdeithasol yw Rhedeg Cymru sy’n ‘anelu at helpu ail-siapio ac adnewyddu cymunedau yng Nghymru; gan gyfrannu at Gymru sy’n iach ac yn gymdeithasol gydlynol, a chael 18% o boblogaeth oedolion Cymru’n rhedeg o leiaf unwaith yr wythnos’. Eu gweledigaeth gyffredinol yw creu newid parhaol ar draws Cymru, gan roi’r offer i bobl i wneud gwir wahaniaeth i’w hiechyd. Roeddent wedi gwneud gwaith mapio a nododd diffyg cyfleoedd rhedeg cymdeithasol yn yr ardal hon. Mae nifer o glybiau rhedeg sefydledig sy’n gysylltiedig ag Athletau Cymru, ond yn aml nid yw rhedwyr sydd newydd ddechrau’n teimlo eu bod o’r safon iawn i ymuno, neu nad yw clybiau’n darparu ar eu cyfer. Mae clybiau rhedeg cymdeithasol yn wahanol i glybiau cysylltiedig – maent yn fwy anffurfiol ac yn darparu’r cyfle cychwynnol i ddechrau arni.

Trwy waith ymchwil cynhwysfawr ar draws grwpiau sydd eisoes yn bodoli a gweithio gyda grwpiau newydd, nodwyd mai rhwystr a welwyd dro ar ôl tro yw cyllid i arweinwyr gymhwyso mewn Arweinyddiaeth Rhedeg er Ffitrwydd (LiRF). Mae’r cwrs un diwrnod yn galluogi Arweinwyr Rhedeg i gyflwyno sesiynau difyr a diogel i grwpiau gallu cymysg a darparu cyngor a chefnogaeth i redwyr newydd yn ogystal â darparu llwybrau ar gyfer y rhai sydd eisiau gwneud cynnydd. Mae’n canolbwyntio ar ddeall a goresgyn rhwystrau i gymryd rhan mewn rhedeg a sut i gynyddu cyfranogiad gan y rhai nad ydynt yn draddodiadol yn cael eu denu i glwb rhedeg, ac felly dyfarnwyd grant o £2,500 iddynt gan y Gronfa Grantiau Bychain i adnabod a hyfforddi 18 o arweinwyr gydag o leiaf 200 o bobl yn rhedeg ar sail rheolaidd gyda’r holl fanteision iechyd a lles a ddaw fel rhan o hynny, a bydd rhwydwaith cynaliadwy o grwpiau rhedeg cymdeithasol o fewn ardal y Gronfa wedi ei greu.

Cynnig clir oedd hwn gyda chanlyniadau go iawn, gan ddefnyddio dull a dreialwyd ac a brofwyd, a oedd wedi profi ei werth. Roedd ganddo’r potensial cryf i gyflwyno buddion iechyd a lles arwyddocaol a chynaliadwy yn ardal fuddiant y Gronfa.

Galluogodd y Gronfa Grantiau Bychain i ni ddarparu cymhwyster Arweinyddiaeth Rhedeg er Ffitrwydd i 18 o unigolion yn Hirwaun a Phenderyn. O ganlyniad i hynny rydym wedi sefydlu dau grŵp rhedeg yn y lleoliadau hynny ac wedi uwchraddio sgiliau ‘arweinydd llwybrau’ a fydd yn cynnal sesiynau rhedeg mynydd yn y flwyddyn newydd. O ganlyniad i’r grŵp ym Mhenderyn rydym hefyd yn gobeithio gweld grŵp bygis rhedeg yn cael ei sefydlu ym Mhenderyn.” – Hannah Phillips (Ysgogydd Rhedeg, Rhedeg Cymru)

Mae’r arweinwyr rhedeg sydd newydd gymhwyso naill ai’n arwain neu’n cefnogi gweithgareddau rhedeg yn yr ardal, mae rhedeg yn parhau i weld twf digynsail ac mae angen arweinwyr rhedeg cymwysedig i sicrhau y cynhelir ac y parheir â’r twf yma, gan arwain, gobeithio, at newid parhaus ar draws Cymru, a chan ddarparu’r offer i bobl wneud gwir wahaniaeth i’w hiechyd a’u lles. Ar wahân i’r grant hwn, mae ‘Parkrun’ bellach wedi’i sefydlu ym Mharc Aberdâr a’r hyn y gwelwn yw y bydd pob digwyddiad Parkrun newydd yn arwain at greu grwpiau rhedeg newydd a bydd yr arweinwyr sydd newydd gymhwyso yn yr ardal yn sicrhau bod y grwpiau hyn yn gynaliadwy ac yn ddiogel.” – Gareth Hall (Rhedeg Cymru)

Dim ond cyllid rhannol yr oedd modd i ni ei gynnig i’r prosiect hwn, a gafodd effaith ar y prosiect gan nad oeddent yn gallu cynnig hyfforddiant i gynifer o unigolion ag yr oeddent yn gobeithio, a cheir galw cyson am y cymhwyster hwn gyda nhw. Er hynny, maent wedi llwyddo i uwchraddio sgiliau 18 o bobl leol ac mae hyn wedi arwain at grwpiau rhedeg gweithredol gyda phobl yn rhedeg bob noson yn yr wythnos. Byddant yn parhau i gefnogi’r 18 o Arweinwyr Rhedeg hyn trwy’r Ysgogydd Rhedeg lleol ac maent yn credu y bu’r prosiect yn llwyddiant ysgubol. Pob dymuniad gorau iddynt hwy ac i bawb sy’n cymryd rhan yn y grwpiau rhedeg newydd.