Rhondda Fawr gyda grant y Gronfa Weledigaeth o £12,885.20.

691 565 rctadmin

Mae Pen y Cymoedd yn falch o fod wedi cefnogi Treorchy Local Markets yn ddiweddar, busnes yn Nhreorci, Rhondda Fawr gyda grant y Gronfa Weledigaeth o £12,885.20.

Mae Treorchy Local Markets yn rhedeg Marchnad Cynnyrch a Chrefftau Lleol ar 2il ddydd Sadwrn pob mis gan gynnig cynnyrch lleol ffres a chrefftau a gynhyrchir yn lleol. Mae hefyd yn cynnig i unig fasnachwyr a busnesau bach lleol lwyfan rhad i werthu eu cynnyrch a chynyddu nifer yr ymwelwyr â Stryd Fawr Treorci. Maent hefyd yn ehangu gyda marchnadoedd ar y Sul, marchnadoedd Nadolig a llawer o ddigwyddiadau posibl eraill ar draws y flwyddyn. Roedd y cynnig i ni wedi’i ymchwilio’n dda ac yn dangos tystiolaeth. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd ar gyfer cynhyrchwyr, mae’r prosiect yn arwain at fwy o fasnachu ar gyfer masnachwyr sefydledig Treorci, yn annog ac yn hyrwyddo busnesau o gymunedau eraill yr Ardal Fuddiant ac yn gwneud defnydd da a chreadigol o safle nas defnyddiwyd llawer arno yn y flaenorol. Mae rhaglen weithgareddau’r farchnad ar gyfer 2019 yn uchelgeisiol ond yn gyffrous. Gwnaethant gais i’r gronfa ar gyfer offer hanfodol i’r safle gan gynnwys 22 o bebyll, baneri, byrddau a chadeiriau a generadur. Bydd yr offer a ariennir ar gael i grwpiau cymunedol a’r Siambr Fasnach eu defnyddio pan nad yw marchnadoedd yn digwydd ac yn wir mae’r offer eisoes cael eu rhoi ar fenthyg ar gyfer yr Orymdaith Nadolig y penwythnos hwn. Mae’r cynhwysydd storio a ariannwyd fel rhan o’r grant hwn yn mynd i gael ei baentio gan gyfranogwyr Project 42 yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treorci a Chwmparc gyda ‘Marchnadoedd Treorci’ mewn arddull graffiti.