Pen y Cymoedd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Cartref

Croeso i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Sefydlwyd y Gronfa gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau hynny sydd yn gartref i’w fferm ynni gwynt ar draws blaenau cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.

Mae gan y Gronfa gyllideb flynyddol o £1.8 miliwn tan 2043, ac mae’n cynnig cyfle eithriadol i bobl leol fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sydd yn dda yn eu cymunedau. Ewch i’r dudalen “Gwnewch Gais am Grant” am ragor o fanylion..

Rheolir y Gronfa gan Gwmni di-elw er Budd Cymunedol sydd yn atebol yn lleol ac yn gwbl annibynnol. Mae gan y Cwmni wyth cyfarwyddwr a thîm o 3 aelod o staff – pob un â chysylltiadau lleol sydd yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cynnal cymunedau. Rydym yma i helpu! Gallwch ddarllen mwy amdanom ni fan hyn.

Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau ar y wefan, ond os na, tarwch nodyn atom ni enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch 01685 878785. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.

Lawrlwythiadau

Mae llawer o ddogfennau defnyddiol ar ein tudalennau Lawrlwytho a Chanllawiau a Chysylltiadau – dogfennau megis canllawiau, fersiwn hawdd ei ddarllen o’n Prosbectws, manylion o grantiau a roddwyd, astudiaethau achos, ein polisïau a dyddiadau ar gyfer ein sesiynau galw-mewn.

Ardal y Gronfa

Yn gyffredinol, y cymunedau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’r trefi a’r pentrefi sydd wedi’u cynnwys yn ardal y Gronfa wedi’u rhestru yma. Os ydych yn ansicr a yw eich sefydliad neu syniadau am gynnig yn dod o fewn yr ardal, cysylltwch â ni. Mae’n bosibl i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i’r ardal, ond mae’n rhaid i’r gweithgaredd neu’r prosiect arfaethedig gynnwys cymunedau oddi mewn iddi, a bod o fudd uniongyrchol iddynt.

Beth yw blaenoriaethau’r Gronfa?

Datblygwyd Prosbectws y Gronfa yn dilyn ymgynghoriad eang yn lleol. Mae’n rhoi i ni fframwaith cychwynnol, a bydd yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Dymunwn gefnogi syniadau arloesol, datblygiad sgiliau, hyfforddiant a menter ac rydym yn awyddus i glywed ac i drafod eich syniadau chi.

Our Funding Priorities – Prospectus – Pen Y Cymoedd Community Fund (penycymoeddcic.cymru)

Dolenni Cyflym

Cael eu Hysbrydoli

Cliciwch yma i ddarllen astudiaethau achos ac ysbrydoli storïau am y grwpiau, busnesau a gweithgareddau a gefnogir gan y gronfa gymunedol

Cael gwybod mwy...

Newyddion Diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Pen y Cymoedd CIC er mwyn cadw lan â’r datblygiadau diweddaraf

RHAGOR O NEWYDDION...

Gwnewch Gais am Gyllid

Dysgwch mwy am y Gronfa, codwch eich pensil a lawr-lwythwch ffurflen gair. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais yn electronig.

SUT I YMGEISIO....

Y newyddion diweddaraf

Cwrdd â’r Tîm
496 490 rctadmin

Enw: Endaf Griffiths Swydd gyda CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd: Rwy’n un o gyfarwyddwyr Wavehill: ymchwil gymdeithasol ac economaidd ac rydym wedi cael ein penodi i gynnal gwerthusiad annibynnol o Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd, gan gwmpasu’r ffordd y mae’n cael ei rheoli yn ogystal â’r hyn sy’n cael ei gyflawni. Rwyf…

Darllen mwy
Mae 5ed rownd y Gronfa Grantiau Bychain nawr ar agor!
1024 560 rctadmin

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Llun 11 Chwefror 2019. Mae grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a busnesau newydd/sy’n datblygu yn gymwys i ymgeisio am grantiau hyd at £5,000. Gallwch weld manylion yr holl brosiectau a gefnogwyd hyd yn hyn yma www.penycymoeddcic.cymru a darllen astudiaethau achos mwy manwl yma. Gellir gwneud cais ar-lein…

Darllen mwy
CYDLYNYDD CLWB CODIO Y RHONDDA PEOPLE AND WORK UNIT £4,994 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWEF 2017
885 552 rctadmin

Mae People and Work yn elusen annibynnol sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth drwy ei ddwy swyddogaeth graidd: hyrwyddo gwerth addysg a dysgu fel offeryn ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, a hyrwyddo cyflogaeth, drwy raglen o brosiectau ymchwil gweithredu yn y gymuned ac ymgymryd â gwaith ymchwil a gwerthuso a gomisiynwyd ar gyfer y sector…

Darllen mwy
BUSNES ADDYSG CERDDORIAETH HOT JAM YN CAEL GRANT O £22,392 O’R GRONFA WELEDIGAETH
822 514 rctadmin

Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd gefnogi’r busnes addysg cerddoriaeth Hot Jam gyda grant o’r Gronfa Weledigaeth am £22,392.    Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd 4,000 o bobl ifanc rhwng 3-14 oed mewn 30 o ysgolion ar draws ardal buddiant y Gronfa yn gallu cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai…

Darllen mwy
Dewch i ‘ ymweld â Threorci ‘!
357 190 rctadmin

Rydym wrth ein bodd o allu cefnogi Siambr Fasnach Treorci a’r cylch gyda grant o £24,904 o’n Cronfa Weledigaeth ar gyfer y fenter ‘ Visit Treorci ‘.  Mae’r grant yn gyfrwng i ddod â grwpiau cymunedol gweithgar a busnesau bywiog at ei gilydd, gyda’r nod o ddatgan wrth y byd pa mor wych yw Treorci,…

Darllen mwy
Cronfa Grantiau Bychain Rownd 4 – Cyhoeddi Dyfarniadau Grantiau!
968 736 rctadmin

Rydym yn falch iawn i fod yn dyfarnu ein pedwerydd cylch o Grantiau’r Gronfa Grantiau Bychain – a dweud wrth bawb am yr holl brosiectau amrywiol a chyffrous sy’n cael eu cefnogi. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi gwneud cais. Unwaith eto, cafwyd llawer mwy o geisiadau nag yr oeddem yn gallu eu cefnogi.…

Darllen mwy
ARTS FACTORY FERNDALE
660 354 rctadmin

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn falch o gyhoeddi dyfarniad grant o £145,980 i’r fenter gymdeithasol yng Nglyn Rhedynnog, sef Arts Factory.  Dros y pedair blynedd nesaf, bydd y sefydliad yn gallu mynd â’i  weithgareddau menter i’r lefel nesaf – gan ei helpu i dyfu, dod yn gynaliadwy ac yn llawer llai dibynnol ar…

Darllen mwy
Astudiaeth Achos Cronfa Grantiau Bychain ar gyfer CYFEILLION CRAIG GWLADUS
447 366 rctadmin

Rhoesom grant o’r Gronfa Grantiau Bychain o £3750 i Gyfeillion Craig Gwladus ym mis Chwefror 2017. Mae eu prosiect bron wedi’i gwblhau bellach ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr.   Gallwch ddarllen rhagor am y grant hwn drwy edrych ar ein tudalen Astudiaethau Achos yn ogystal â’r newyddion diweddaraf ar lawer o grantiau eraill.

Darllen mwy
HOT JAM MUSIC EDUCATION BUSINESS RECEIVES £22,392 VISION FUND GRANT
822 514 rctadmin

Pen y Cymoedd Wind Farm Community Fund is delighted to be supporting music education business Hot Jam with a £22,392 Vision Fund grant. Over the next two years, 4,000 young people aged 3 – 14 in 30 schools across the Fund’s area of benefit will be able to take part in a variety of music…

Darllen mwy
Micro Fund Case Study for FRIENDS OF CRAIG GWLADUS
447 366 rctadmin

We gave a Micro Fund grant of £3750 to Friends of Craig Gwladus in February 2017. Their project is now almost complete and has been a great success. You can read more about this grant by looking at our Case Studies page as well as lots of other grant updates.

Darllen mwy