Mae 9fed rownd y Gronfa Ficro bellach ar agor!

967 441 rctadmin

Ers 2017 mae gennym 288 o Grantiau Cronfa Ficro gyfanswm o £889,000.

Mae grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a busnesau newydd/datblygol yn gymwys i wneud cais am grantiau hyd at £5,000. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Llun 15Chwefror 2021 a chyhoeddir penderfyniadau a dyfarniadau ddiwedd mis Mawrth.

Os ydych yn grŵp, clwb neu fusnes a bod gennych syniad am rywbeth y gallai cyllid grant helpu gydag ef yn y Gwanwyn – cysylltwch â ni nawr!

Dysgwch fwy am y Gronfa Micro a sut i wneud cais yma: https://penycymoeddcic.cymru/the-micro-fund/

Os oes gennych syniad neu gynnig yr hoffech ei drafod gyda ni cyn rhoi pen ar bapur, dewch draw i gael sgwrs anffurfiol gyda ni. Byddwn yn cynnal sesiynau cyngor ar y ffôn neu Zoom bob ychydig wythnosau – bydd angen i chi archebu slot apwyntiad – rhowch linell i ni yn ymholiadau@penycymoeddcic.cymru