Cyllid brys COVID a grantiau mawr o’r Gronfa Weledigaeth gwerth cyfanswm o £287,772

1024 577 rctadmin

Ers 2017 rydym wedi cefnogi grwpiau chwaraeon gyda grantiau Cronfa Ficrofusnesau, cyllid brys COVID a grantiau mawr o’r Gronfa Weledigaeth gwerth cyfanswm o £287,772

O offer dawns a gymnasteg yng Nglynrhedynog ac Aberdâr i becynnau pêl-droed ac offer ym Mhentre, Glyn-nedd a Blaengwynfi. Clybiau Bowls yn Nhreherbert a Blaengwynfi, clybiau golff a nofio iau, saunas yn y Rhigos, kayaks yn Resolfen, pysgota, cerdded Nordig a rygbi, campfeydd yn Aberaman a Glyn-nedd, kickboxing ac athletau. Merched rygbi a polo dŵr, adeiladu caeau ymarfer i ŵyl feicio mynydd 3 diwrnod. Dim ond rhai o’r prosiectau y mae’r gronfa wedi buddsoddi ynddynt yw’r rhain.

Mae’r cyllid hwn wedi helpu grwpiau chwaraeon i uwchraddio offer hanfodol, cynyddu cyfranogiad, cynnwys pobl ifanc mewn gweithgarwch chwaraeon, mynd i’r afael â materion iechyd meddwl a hunan-barch. Mae wedi helpu adeiladau chwaraeon i wella, cynnig gwasanaethau newydd, dechrau gweithgareddau newydd ar gyfer pob oedran a chefnogi uwchraddio cyfleusterau mawr.

Gofynnodd y gymuned i’r gronfa:

    • Cael cymunedau sy’n iachach ac yn fwy gweithgar
    • Ei gwneud yn haws i bobl fyw bywydau iach
    • Dechrau’n ifanc i fynd i’r afael â materion hirdymor
    • Bod â chyfleusterau cymunedol addas i’r diben
    • Darparu cyfleusterau chwaraeon a mannau chwarae ar gyfer pob oedran sy’n cael eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw’n dda

Ynghyd â chyllid gan Chwaraeon Cymru, bydd cyrff llywodraethu a chyllidwyr eraill Pen y Cymoedd yn cael effaith wirioneddol a pharhaol ar amrywiaeth ac ansawdd cyfleusterau chwaraeon a hamdden yn ystod oes y gronfa a thu hwnt.

Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect bach a fydd yn cael effaith wirioneddol, os ydych am uwchraddio cyfleusterau i wneud sefydliad yn well am flynyddoedd i ddod neu os oes gennych brosiect gweledigaethol mawr, cyffrous mewn golwg – siaradwch â ni!

Mae gan Interlink Rhondda Cynon Taf a NPTCVS swyddogion datblygu sydd â’r gwaith o gefnogi sefydliadau cymunedol gyda datblygu, cynllunio a chyllid a gallant roi llawer o gyngor ac arweiniad i chi hefyd.