Pen y Cymoedd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Cartref

Croeso i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Sefydlwyd y Gronfa gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau hynny sydd yn gartref i’w fferm ynni gwynt ar draws blaenau cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.

Mae gan y Gronfa gyllideb flynyddol o £1.8 miliwn tan 2043, ac mae’n cynnig cyfle eithriadol i bobl leol fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sydd yn dda yn eu cymunedau. Ewch i’r dudalen “Gwnewch Gais am Grant” am ragor o fanylion..

Rheolir y Gronfa gan Gwmni di-elw er Budd Cymunedol sydd yn atebol yn lleol ac yn gwbl annibynnol. Mae gan y Cwmni wyth cyfarwyddwr a thîm o 3 aelod o staff – pob un â chysylltiadau lleol sydd yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cynnal cymunedau. Rydym yma i helpu! Gallwch ddarllen mwy amdanom ni fan hyn.

Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau ar y wefan, ond os na, tarwch nodyn atom ni enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch 01685 878785. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.

Lawrlwythiadau

Mae llawer o ddogfennau defnyddiol ar ein tudalennau Lawrlwytho a Chanllawiau a Chysylltiadau – dogfennau megis canllawiau, fersiwn hawdd ei ddarllen o’n Prosbectws, manylion o grantiau a roddwyd, astudiaethau achos, ein polisïau a dyddiadau ar gyfer ein sesiynau galw-mewn.

Ardal y Gronfa

Yn gyffredinol, y cymunedau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’r trefi a’r pentrefi sydd wedi’u cynnwys yn ardal y Gronfa wedi’u rhestru yma. Os ydych yn ansicr a yw eich sefydliad neu syniadau am gynnig yn dod o fewn yr ardal, cysylltwch â ni. Mae’n bosibl i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i’r ardal, ond mae’n rhaid i’r gweithgaredd neu’r prosiect arfaethedig gynnwys cymunedau oddi mewn iddi, a bod o fudd uniongyrchol iddynt.

Beth yw blaenoriaethau’r Gronfa?

Datblygwyd Prosbectws y Gronfa yn dilyn ymgynghoriad eang yn lleol. Mae’n rhoi i ni fframwaith cychwynnol, a bydd yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Dymunwn gefnogi syniadau arloesol, datblygiad sgiliau, hyfforddiant a menter ac rydym yn awyddus i glywed ac i drafod eich syniadau chi.

Our Funding Priorities – Prospectus – Pen Y Cymoedd Community Fund (penycymoeddcic.cymru)

Dolenni Cyflym

Cael eu Hysbrydoli

Cliciwch yma i ddarllen astudiaethau achos ac ysbrydoli storïau am y grwpiau, busnesau a gweithgareddau a gefnogir gan y gronfa gymunedol

Cael gwybod mwy...

Newyddion Diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Pen y Cymoedd CIC er mwyn cadw lan â’r datblygiadau diweddaraf

RHAGOR O NEWYDDION...

Gwnewch Gais am Gyllid

Dysgwch mwy am y Gronfa, codwch eich pensil a lawr-lwythwch ffurflen gair. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais yn electronig.

SUT I YMGEISIO....

Y newyddion diweddaraf

CYMDEITHAS THEATR GERDD SELSIG – HAIRSPRAY
960 720 rctadmin

GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN: £5000.00   “Cefnogodd y grant Pen y Cymoedd ein cynhyrchiad o ‘Hairspray’ yn Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci.  Y prif wahaniaeth yn sgil derbyn y grant hwn oedd y gallem ddefnyddio golygfeydd, goleuadau a gwisgoedd proffesiynol, a barodd welliant aruthrol i’r cynhyrchiad.   Cymerodd 72 o bobl o…

Darllen mwy
Toogoodtowaste, Cylch Meithrin Penderyn, Mae Partneriaeth Fern and Derbyniodd Gwobr Dug Caeredin Cymru
960 720 rctadmin

Mae Toogoodtowaste yn fenter gymdeithasol a leolir yn RhCT, sy’n cynnig gwasanaeth casglu am ddim ar gyfer dodrefn ac eitemau trydanol ac aelwyd all gael eu hailddefnyddio. Mae’r rhain wedyn yn cael eu glanhau, eu trwsio a’u gwasanaethu cyn cael eu gwerthu’n ôl i gymunedau lleol trwy eu harddangosleoedd elusennol mawr, gyda’r un diweddaraf yn…

Darllen mwy
Cerdded Nordig y Tri Chwm – Cerdded Yn Ôl i Hapusrwydd
1024 576 rctadmin

GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £1,480 Cynigiwyd y grant i gefnogi costau cludiant a chyfarpar er mwyn i’r grŵp hwn ymweld â 12 tref a phentref i hyrwyddo manteision grwpiau cerdded Nordig, recriwtio aelodau newydd a hwyluso sefydlu grwpiau newydd i ‘Gerdded Yn Ôl i Hapusrwydd’. “Y nod oedd hybu rhaglen ymarfer corff…

Darllen mwy
PÊL-RWYD Y RHONDDA – DYFODOL CLWB PÊL-RWYD TREORCI
960 640 rctadmin

GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £4,940   Amcan y prosiect hwn oedd parhau â’r ddarpariaeth yn Nhreorci a’i thyfu – erbyn hyn Treorci yw’r mwyaf o’u 4 clwb iau a’r tymor hwn roedd 165 yn bresennol ar gyfartaledd bob wythnos. Cefnogodd y grant gan y Gronfa Grantiau Bychain gostau Prif Hyfforddwr, Hyfforddwyr Cynorthwyol…

Darllen mwy
CLWB PAFFIO AMATUR CWMGWRACH
1024 768 rctadmin

GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN: £3226.32 “Galluogodd y grant gan PyC i ni osod sylfaen gadarn ar gyfer campfa gymuned lwyddiannus. Mae’r cyfarpar, cit a’r cylch paffio wedi cael effaith sylweddol arnom ni fel clwb ac mae cyfranogiad y gymuned wedi ein gwneud ni mor falch. Rydym bellach yn rhedeg Paffio, Paffio i Blant…

Darllen mwy
CWMDARE OAP ACTIVE WALES – TEITHIAU CARRY ON
1024 525 rctadmin

GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £1000   Dyfarnwyd grant o £1,000 i Cwmdare OAP Active Wales gan y Gronfa Grantiau Bychain ym mis Medi 2018. Maent wedi eu lleoli yng Nghwmdâr, Cwm Cynon gyda 106 o aelodau y mae eu harwyddair yw “Ymddeol o’r gwaith, nid o fywyd” ac wedi bodoli ers 1941,…

Darllen mwy
Dyfarniadau Grant y Gronfa Weledigaeth yn Rhoi Hwb i Fusnesau a Grwpiau Cymunedol y Cymoedd
550 525 rctadmin

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd wrth ei bodd â chyhoeddi manylion pump grant ychwanegol gan y Gronfa Gweledigaeth – gan fuddsoddi £183,535 ar draws pedwar o Gymoedd De Cymru. Mae grantiau’r Gronfa Gweledigaeth yn cefnogi gweithgareddau sy’n cyflwyno amrywiaeth o fuddion i gymunedau lleol – gall busnesau, y sector gwirfoddol a grwpiau…

Darllen mwy
Meet the Team – Michelle
700 500 rctadmin

Enw? Michelle Coburn-Hughes BA (Anrh) Swydd yng Nghwmni Buddiant Cymunedol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd? Cyfarwyddwr Hanes Swyddi (yr ydych am ddweud wrthym amdanynt)? 22 mlynedd mewn Addysg gan gynnwys 14 mlynedd ar lefel Uwch Reoli. Hefyd 5 mlynedd mewn datblygu busnes yn dechrau a sefydlu elusen lwyddiannus yn cyflogi dros 55 o…

Darllen mwy
CWMGWRACH AMATEUR BOXING CLUB
1024 768 rctadmin

MICRO FUND GRANT: £3226.32 “The grant from PyC enabled us to fully set the foundations for a successful community gym. The equipment, kit and boxing ring had a significant impact on us as a club and the community involvement has made us so proud. We now run Boxing, Mini Boxing / Women’s only Boxing /…

Darllen mwy
Meet the team – Martin Veale YH
195 463 rctadmin

Enw? Martin Veale YH Swydd yng Nghwmni Buddiant Cymunedol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd? Cyfarwyddwr Hanes Swyddi (yr ydych am ddweud wrthym amdanynt)? Cymhwysais fel cyfrifydd tua 30 mlynedd yn ôl, ac yr wyf wedi gweithio ar draws nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus yn ardal De Cymru. Rwyf wedi gwneud rolau…

Darllen mwy