Pen y Cymoedd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Cartref

Croeso i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Sefydlwyd y Gronfa gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau hynny sydd yn gartref i’w fferm ynni gwynt ar draws blaenau cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.

Mae gan y Gronfa gyllideb flynyddol o £1.8 miliwn tan 2043, ac mae’n cynnig cyfle eithriadol i bobl leol fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sydd yn dda yn eu cymunedau. Ewch i’r dudalen “Gwnewch Gais am Grant” am ragor o fanylion..

Rheolir y Gronfa gan Gwmni di-elw er Budd Cymunedol sydd yn atebol yn lleol ac yn gwbl annibynnol. Mae gan y Cwmni wyth cyfarwyddwr a thîm o 3 aelod o staff – pob un â chysylltiadau lleol sydd yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cynnal cymunedau. Rydym yma i helpu! Gallwch ddarllen mwy amdanom ni fan hyn.

Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau ar y wefan, ond os na, tarwch nodyn atom ni enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch 01685 878785. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.

Lawrlwythiadau

Mae llawer o ddogfennau defnyddiol ar ein tudalennau Lawrlwytho a Chanllawiau a Chysylltiadau – dogfennau megis canllawiau, fersiwn hawdd ei ddarllen o’n Prosbectws, manylion o grantiau a roddwyd, astudiaethau achos, ein polisïau a dyddiadau ar gyfer ein sesiynau galw-mewn.

Ardal y Gronfa

Yn gyffredinol, y cymunedau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’r trefi a’r pentrefi sydd wedi’u cynnwys yn ardal y Gronfa wedi’u rhestru yma. Os ydych yn ansicr a yw eich sefydliad neu syniadau am gynnig yn dod o fewn yr ardal, cysylltwch â ni. Mae’n bosibl i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i’r ardal, ond mae’n rhaid i’r gweithgaredd neu’r prosiect arfaethedig gynnwys cymunedau oddi mewn iddi, a bod o fudd uniongyrchol iddynt.

Beth yw blaenoriaethau’r Gronfa?

Datblygwyd Prosbectws y Gronfa yn dilyn ymgynghoriad eang yn lleol. Mae’n rhoi i ni fframwaith cychwynnol, a bydd yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Dymunwn gefnogi syniadau arloesol, datblygiad sgiliau, hyfforddiant a menter ac rydym yn awyddus i glywed ac i drafod eich syniadau chi.

Our Funding Priorities – Prospectus – Pen Y Cymoedd Community Fund (penycymoeddcic.cymru)

Dolenni Cyflym

Cael eu Hysbrydoli

Cliciwch yma i ddarllen astudiaethau achos ac ysbrydoli storïau am y grwpiau, busnesau a gweithgareddau a gefnogir gan y gronfa gymunedol

Cael gwybod mwy...

Newyddion Diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Pen y Cymoedd CIC er mwyn cadw lan â’r datblygiadau diweddaraf

RHAGOR O NEWYDDION...

Gwnewch Gais am Gyllid

Dysgwch mwy am y Gronfa, codwch eich pensil a lawr-lwythwch ffurflen gair. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais yn electronig.

SUT I YMGEISIO....

Y newyddion diweddaraf

Micro Fund Round 7 Awards
1024 677 rctadmin

During these difficult times we are very excited to be announcing the results of Micro Fund Round 7 which were considered in March! As ever, we received many more applications than we were able to support. 65 applications were submitted requesting a total of £260,000. £110,364.37 has been awarded this time to 23 community groups…

Darllen mwy
Ariannu COVID-19 Cymunedol Brys
1024 560 rctadmin

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn darparu ariannu brys ar garlam ar gyfer sefydliadau yn ardal y Gronfa. Bydd dau edefyn: Y Gronfa Goroesi: darparu cyllid llif arian brys ar gyfer sefydliadau sydd mewn perygl o gau i lawr Y Gronfa Prosiectau: cefnogi gwasanaethau ychwanegol sy’n diwallu anghenion cymunedol yn y dyfodol…

Darllen mwy
Arwr Lleol y Mis – Nathan Howells
973 637 rctadmin

Pwy yw arwr lleol y mis yma?   Nathan yn The Play Yard, Treorci.   Beth maen nhw wedi bod yn gwneud?   Dechreuodd Nathan fel rheolwr The Play Yard tua diwedd 2018 pan gymerwyd y cyfleuster adfeiliedig drosodd gan Valleys Kids fel menter gymdeithasol. Ers hynny, mae Nathan wedi gweithio’n ddiflin i wella a…

Darllen mwy
Cefnogaeth trwy’r achosion Coronavirus (COVID-19).
150 150 rctadmin

Mae CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn cydnabod y bydd Coronafirws (COVID-19) yn cael effaith fawr ar gymunedau ar draws ardal y Gronfa.  Rydym am eich sicrhau y byddwn yn gwneud beth bynnag a allwn i’ch cefnogi yn ystod yr wythnosau nesaf. Pethau i’w nodi: Mae’r Gronfa Gymunedol yn dal ar agor…

Darllen mwy
Afan Lodge wedi’i arbed er budd y gymuned
1024 433 rctadmin

Mae’n bleser gan Gwmni Buddiannau Cymunedol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd (CBC PyC) gyhoeddi ei fod wedi gweithio gyda’r perchnogion ac eraill i sicrhau cyfraniad parhaus Afan Lodge at ffyniant Cwm Afan a chymunedau ehangach.  Mae bellach yn is-gwmni i CBC PyC a fydd yn cael ei reoli a’i redeg ar ran CBC…

Darllen mwy
Mae CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn recriwtio
1024 560 rctadmin

Swyddog Cymorth Menter a Chyllid Gydag £1.8 miliwn y flwyddyn (mynegrifol) tan 2043, mae’r Gronfa’n buddsoddi mewn cymunedau a busnesau ar draws cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon uchaf. Os ydych yn angerddol am yr ardal hon, ac yn teimlo’n gyffrous am yr hyn y gall y Gronfa ei gyflawni, a hoffech ymuno â’n tîm…

Darllen mwy
Mae CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn recriwtio Aelodau Bwrdd!
1024 768 rctadmin

Agorodd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd am fusnes ym mis Rhagfyr 2016, gan gynnig ffynhonnell ariannu newydd a sylweddol ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Os ydych yn angerddol dros yr ardal hon, ac yn gyffrous am yr hyn y gall y Gronfa ei gyflawni – a hoffech chi…

Darllen mwy
Mae 7fed rownd y gronfa ficro bellach ar agor
1024 560 rctadmin

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Llun 17 Chwefror 2020. Mae grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a busnesau newydd/datblygol yn gymwys i wneud cais am grantiau hyd at £5,000. Mae’r cais ar-lein ar gael yma www. penycymoeddcic Dysgwch fwy yma: https://penycymoeddcic.cymru/the-micro-fund/ Mae’n llawer gwell gennym fod wedi cael sgwrs gyda chi am eich…

Darllen mwy
Announcing Micro Fund Round 6 Results!
968 596 rctadmin

We are delighted to announce details of the latest Micro Fund grant awards – once again, we received proposals from a wide range of community groups and businesses – the variety is always amazing and we look forward to reading every one.  We are grateful to all who submitted applications. Our Fund communities are full…

Darllen mwy
Grant o £4,125 gan y Gronfa Grantiau Bychain i Glwb Athletau Amatur Cwm Aberdâr
1024 576 rctadmin

Mae CAAC Aberdâr yn grŵp ymroddedig sydd wedi bod ar bwynt cau i lawr ac sydd bellach yn ffynnu – maent wedi gweithredu ers tua 40 mlynedd ac ar anterth llwyddiant y clwb roedd ganddo dros 200 o athletwyr a bws i gludo athletwyr i ddigwyddiadau. Bu hefyd yn brif ysgogydd athletau yng Nghwm Cynon.…

Darllen mwy