Pen y Cymoedd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Cartref

Croeso i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Sefydlwyd y Gronfa gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau hynny sydd yn gartref i’w fferm ynni gwynt ar draws blaenau cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.

Mae gan y Gronfa gyllideb flynyddol o £1.8 miliwn tan 2043, ac mae’n cynnig cyfle eithriadol i bobl leol fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sydd yn dda yn eu cymunedau. Ewch i’r dudalen “Gwnewch Gais am Grant” am ragor o fanylion..

Rheolir y Gronfa gan Gwmni di-elw er Budd Cymunedol sydd yn atebol yn lleol ac yn gwbl annibynnol. Mae gan y Cwmni wyth cyfarwyddwr a thîm o 3 aelod o staff – pob un â chysylltiadau lleol sydd yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cynnal cymunedau. Rydym yma i helpu! Gallwch ddarllen mwy amdanom ni fan hyn.

Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau ar y wefan, ond os na, tarwch nodyn atom ni enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch 01685 878785. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.

Lawrlwythiadau

Mae llawer o ddogfennau defnyddiol ar ein tudalennau Lawrlwytho a Chanllawiau a Chysylltiadau – dogfennau megis canllawiau, fersiwn hawdd ei ddarllen o’n Prosbectws, manylion o grantiau a roddwyd, astudiaethau achos, ein polisïau a dyddiadau ar gyfer ein sesiynau galw-mewn.

Ardal y Gronfa

Yn gyffredinol, y cymunedau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’r trefi a’r pentrefi sydd wedi’u cynnwys yn ardal y Gronfa wedi’u rhestru yma. Os ydych yn ansicr a yw eich sefydliad neu syniadau am gynnig yn dod o fewn yr ardal, cysylltwch â ni. Mae’n bosibl i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i’r ardal, ond mae’n rhaid i’r gweithgaredd neu’r prosiect arfaethedig gynnwys cymunedau oddi mewn iddi, a bod o fudd uniongyrchol iddynt.

Beth yw blaenoriaethau’r Gronfa?

Datblygwyd Prosbectws y Gronfa yn dilyn ymgynghoriad eang yn lleol. Mae’n rhoi i ni fframwaith cychwynnol, a bydd yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Dymunwn gefnogi syniadau arloesol, datblygiad sgiliau, hyfforddiant a menter ac rydym yn awyddus i glywed ac i drafod eich syniadau chi.

Our Funding Priorities – Prospectus – Pen Y Cymoedd Community Fund (penycymoeddcic.cymru)

Dolenni Cyflym

Cael eu Hysbrydoli

Cliciwch yma i ddarllen astudiaethau achos ac ysbrydoli storïau am y grwpiau, busnesau a gweithgareddau a gefnogir gan y gronfa gymunedol

Cael gwybod mwy...

Newyddion Diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Pen y Cymoedd CIC er mwyn cadw lan â’r datblygiadau diweddaraf

RHAGOR O NEWYDDION...

Gwnewch Gais am Gyllid

Dysgwch mwy am y Gronfa, codwch eich pensil a lawr-lwythwch ffurflen gair. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais yn electronig.

SUT I YMGEISIO....

Y newyddion diweddaraf

Yn cyflwyno aelodau newydd ein Bwrdd!
987 623 rctadmin

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn ffynhonnell newydd, sylweddol o arian ar gyfer grwpiau cymunedol a busnesau ar draws blaenau Cymoedd Castell-nedd, Afan, Rhondda a Cynon. Cwmni er Budd Cymunedol annibynnol yw’r gronfa, dan reolaeth bwrdd o Gyfarwyddwr a benodwyd yn dilyn hysbyseb agored ym mis Mehefin 2016.   Mae cyfyngiad ar…

Darllen mwy
Mae 6ed rownd y Gronfa Grantiau Bychain nawr ar agor
1024 560 rctadmin

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Llun 19 Awst 2019. Mae grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a busnesau newydd/sy’n datblygu yn gymwys i ymgeisio am grantiau hyd at £5,000. Gallwch weld manylion yr holl brosiectau a gefnogwyd hyd yn hyn yma www.penycymoeddcic.cymru a darllen astudiaethau achos mwy manwl yma. Gellir gwneud cais ar-lein…

Darllen mwy
GRANTIAU O’R GRONFA MEICRO – ROWND 5
919 553 rctadmin

Ddwy flynedd ar ôl ein grantiau cyntaf, mae’n anodd credu ein bod ni nawr yn cyhoeddi canlyniadau pumed rownd y gronfa micro!    Unwaith eto cawsom lawer mwy o geisiadau nag yr oeddem yn gallu cefnogi. Derbyniwyd 69 o geisiadau yn gofyn am gyfanswm o £270,410.   Y tro hwn rydym wedi gallu dyfarnu £98,931.84…

Darllen mwy
Mae CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn recriwtio Aelodau Bwrdd!
1024 560 rctadmin

Agorodd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd am fusnes ym mis Rhagfyr 2016, gan gynnig ffynhonnell ariannu newydd a sylweddol ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Os ydych yn angerddol dros yr ardal hon, ac yn gyffrous am yr hyn y gall y Gronfa ei gyflawni – a hoffech chi…

Darllen mwy
Valleys Community Fund Celebrates First £4 million of investment!
1024 576 rctadmin

Q. What do a family clothing business, a boxing club and eco-friendly camping huts have in common? A. They have all benefitted from a grant from the Pen y Cymoedd Wind Farm Community Fund – enabling them to grow and develop! Over 200 local people came together this week at events in Croeserw and Cwmdare…

Darllen mwy
Tafarn a Bwyty Refreshment Rooms yn Y Cymer, Cwm Afan
360 260 rctadmin

Rydym wrth ein boddau â chyhoeddi bod grant wedi’i ddyfarnu gan y Gronfa Gweledigaeth i’r Dafarn a Bwyty Refreshment Rooms hanesyddol yn Y Cymer, Cwm Afan. Yn flaenorol roedd y Refreshment Rooms, a redir gan y perchnogion preswyl Neil a Bethan Little, yn gaffi/bar gorsaf reilffordd ac mae’n cadw ei gymeriad unigryw a gwreiddiol. Er…

Darllen mwy
Mae plant a phobl ifanc ym Mhentre’n edrych ymlaen at gael llawer o hwyl trwy chwaraeon
1024 506 rctadmin

Diolch i grant o £81,435 gan Gronfa Gweledigaeth Fferm Wynt Pen y Cymoedd. Rydym wrth ein boddau â chyhoeddi’r dyfarniad hwn i Ganolfan Pentre, i gefnogi Ardal Gemau AmlDdefnydd (MUGA) sy’n cael ei gosod ger y lleoliad cymunedol poblogaidd. Gall llawer o weithgareddau chwaraeon ffurfiol ac anffurfiol ddigwydd mewn MUGA a gallant gael eu defnyddio…

Darllen mwy
Mae Pen y Cymoedd yn falch o fod wedi cefnogi Marchnadoedd Lleol Treorci’n ddiweddar, busnes a leolir yn Nhreorci, Rhondda Fawr
691 565 rctadmin

Gyda grant o £12,885.20 gan y Gronfa Gweledigaeth. Mae Marchnadoedd Lleol Treorci’n rhedeg Marchnad Cynnyrch a Chrefftau Lleol ar yr 2il ddydd Sadwrn o bob mis, gan ddarparu cynnyrch lleol ffres a chrefftau a gynhyrchwyd yn lleol i gwsmeriaid. Hefyd, mae’n cynnig llwyfan am ffi cymedrol i fusnesau bach ac unig fasnachwyr lleol er mwyn…

Darllen mwy
Rhondda Fawr gyda grant y Gronfa Weledigaeth o £12,885.20.
691 565 rctadmin

Mae Pen y Cymoedd yn falch o fod wedi cefnogi Treorchy Local Markets yn ddiweddar, busnes yn Nhreorci, Rhondda Fawr gyda grant y Gronfa Weledigaeth o £12,885.20. Mae Treorchy Local Markets yn rhedeg Marchnad Cynnyrch a Chrefftau Lleol ar 2il ddydd Sadwrn pob mis gan gynnig cynnyrch lleol ffres a chrefftau a gynhyrchir yn lleol.…

Darllen mwy
Cronfa Weledigaeth Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd o £81,435.
1024 506 rctadmin

Mae plant a phobl ifanc ym Mhentre yn edrych ymlaen at gael llawer o hwyl gyda chwaraeon – diolch i grant Cronfa Weledigaeth Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd o  £81,435. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r dyfarniad hwn i Ganolfan Pentre, i gefnogi gosod Ardal Gemau Aml-Ddefnydd (MUGA) yn agos at y lleoliad cymunedol poblogaidd. Gall…

Darllen mwy