CYLLID GWELEDIGAETH DROS ‘HYDRO JAM’ YN Y GOEDWIG AC AELOD STAFF NEWYDD I GEFNOGI CYMDEITHAS GYMUNEDOL CWMPARC

569 392 rctadmin

Theatr Avant – Hydro Jam – £15,298.95
Wedi’i gynllunio fel gŵyl go iawn yn y goedwig yn Nhreherbert ar gyfer 2021 a bellach wedi’i gohirio tan 2022, bydd Avant yn awr yn treialu lleoliad y ‘jam’ cyntaf mewn lleoliad coetir yn y DU), yn gweithredu meddalwedd y system farnu ac yn ffilmio’r hyn sy’n bosib i rannu’r cyfleoedd cyffrous ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dyma bartneriaeth unigryw rhwng Avant, Croeso i’n Coedwig a lleoliadau a busnesau lleol eraill. Mae Avant Cymru wedi ymuno â chydweithwyr sy’n dod â chystadlaethau ‘Breakin’ ar draws y DU ynghyd gan ddefnyddio system sgorio achrededig ar y cyd a hybu digwyddiadau ei gilydd, pob un gyda phwynt gwerthu unigryw, ac yn rhoi cyfle cyffrous i ddod â digwyddiad i’r Rhondda a fyddai yn draddodiadol wedi’i leoli mewn lleoliad canol dinas.
Bydd dod â digwyddiad i galon y Cymoedd yn gweithio hefyd i oresgyn rhwystrau i gyfranogiad. Mewn cydweithrediad â Larynx Entertainment, Motion Control Dance a Fusions Elite rydym yn datblygu rhwydwaith ar gyfer diwylliant Hip Hop a ‘breakin’ ar draws Cymru a bydd y rhwydweithio hwn yn cynyddu cyfranogiad ac yn cyfeirio digwyddiadau a gwaith ar y cyd yn y dyfodol.
“Mae Avant Cymru yn hynod o ddiolchgar am y cyfle y mae’r cyllid Pen y Cymoedd yn ei ddarparu, gan alluogi ni i gyd-greu gyda’r gymuned, Croeso i’n Coedwig, artistiaid Hip Hop ar draws Cymru a gyda Breakers ar draws y DU. Mae’r cyfle i ddod â digwyddiadau difyr a chyffrous i’r Rhondda’n bwysig iawn i ni, rydym yn credu bod y Rhondda’n lle anhygoel i fyw ac rydym yn gyffrous i barhau i gydweithio ag eraill i ddarparu theatr, dawns, cyfleoedd a sioeau hip hop er mwyn i ni rannu profiadau, storïau a mwynhau treulio amser gyda’n cymuned yn nhirwedd brydferth ein cymunedau” – Rachel, Avant
“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn cefnogi Avant gyda grant gan y Gronfa Gweledigaeth o £15,298.95 ar gyfer y Hip Hop Jam mewn cydweithrediad â Chroeso i’n Coedwig. Dyma brosiect partneriaeth unigryw i ddod â digwyddiad i galon y Cymoedd a fydd yn gweithio hefyd i oresgyn rhwystrau i gyfranogiad. Maent yn datblygu rhwydwaith ar gyfer diwylliant Hip Hop a ‘breakin’ ar draws y DU a bydd hyn yn cynyddu cyfranogiad ac yn cyfeirio digwyddiadau a gwaith ar y cyd yn y dyfodol. Bydd y prosiect hwn hefyd yn ennyn diddordeb y cyhoedd ymhellach yng ngwaith Avant i adeiladu cynulleidfaoedd y dyfodol ar gyfer dosbarthiadau, sioeau, gwyliau a jamiau lleol ac yn cryfhau gwaith partneriaeth yng Nghwm Rhondda Uchaf.” – Kate, Cyfarwyddwr Gweithredol Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd
Cefnogi gweithgareddau diwylliannol ac ysbryd cymunedol / creu amrediad o gyfleoedd cynaliadwy a diwylliannol yn yr ardal.

Cymdeithas Gymunedol Cwmparc – Ariannu ein Dyfodol – £21,280
Sefydlwyd y Gymdeithas yn yr 80au hwyr gyda’r nod o ddarparu gofod ar gyfer y gymuned. Yn yr oes bresennol mae’r Gymdeithas yn darparu
• Addysg/hyfforddiant
• Dosbarthiadau wythnosol i bob oedran
• Gweithgareddau ar ôl ysgol a Chwarae yn ystod y Gwyliau
• Gwasanaeth ieuenctid
• Gofod ar gyfer gweithgareddau celf/ diwylliannol/ treftadaeth
• Lleoliadau Swydd a Chyfleoedd Gwirfoddoli
Gan Gyflogi Pobl Leol, mae’r Gymdeithas hefyd yn rhedeg caffi a champfa gymunedol, yn cynnig hurio ystafelloedd a dosbarthiadau/cyrsiau analwedigaethol, adnoddau i’r gymuned e.e., mynediad i’r rhyngrwyd, llungopïo, argraffu, dosbarthu bagiau ailgylchu, gweithgareddau corfforol e.e. Dosbarthiadau Funky Pump, Cylchedau, Cydweithfa Fwyd sy’n darparu basgedi bwyd wythnosol i’r rhai sydd mewn angen a chymorthfeydd Cynghorwyr lleol.

Defnyddir y Ganolfan fel cyrchfan ar gyfer busnesau lleol fel Therapi Tylino Chwaraeon. Mae cynnwys yr Hyb Teuluoedd newydd yn darparu gofod awyr agored sy’n ymarferol i’w ddefnyddio, mwy o gapasiti ar gyfer gweithgareddau gyda’r potensial am ddatblygu creche a chyfleuster addysg amgylcheddol “Ysgol Goedwig” yn ogystal â’r cyfle i ddatblygu mwy o weithgareddau wythnosol fel dosbarthiadau Rhieni a Phlant Bach. Yn ystod y cyfnodau clo, mae staff wedi cadw mewn cyswllt yn rheolaidd dros nifer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan ddarparu sesiynau crefft a chwarae ar-lein i blant, gyda gweithgareddau a chystadlaethau ar-lein ar gyfer plant ifanc a hŷn, ac maent yn parhau i gyflwyno pecynnau gweithgareddau i gartrefi eu pobl ifanc ar sail wythnosol. Ers mis Mawrth 2020 maent wedi darparu mwy na 6000 o becynnau gweithgareddau i blant a phobl ifanc. Er eu bod yn disgwyl i lawer o ddefnyddwyr rheolaidd ddychwelyd i’r Ganolfan a’r Hyb Teuluoedd pan fydd yn ddiogel i wneud, maent yn disgwyl y bydd problem i fynd i’r afael â hi o ran hyder cymunedol. At hynny, ni fu modd iddynt ddatblygu perthnasoedd newydd gyda llawer o’r defnyddwyr a ddisgwylir yn 2020/21, fel pobl ifanc sy’n dechrau Bl. 7, ac yn ei dro, gyda’u teuluoedd oherwydd pa mor hir y mae’r cyfnod clo wedi parhau.
Gwnaethant ymgeisio i Pen y Cymoedd i gefnogi cost cyflogi aelod staff newydd a fydd yn:
• Nodi’r mathau o weithgareddau a chefnogi aelodau’r gymuned o bob oedran sydd am weld/ cael eu cadw gan y Gymdeithas (Hyb/Canolfan)
• Nodi rhwystrau i ymgysylltu neu gyfranogiad, gallai hyn fod o gymorth wrth gynyddu hyder defnyddwyr ar ôl COVID-19 a chynyddu nifer y defnyddwyr.
• Nodi sefydliadau a all wneud defnydd o’r gofodau mewnol ac allanol ar sail rhentu.
• Nodi sefydliadau cyflwyno lleol lle gallai cyfleoedd gwaith partneriaeth fodoli, er mwyn darparu ymagwedd gyfannol at weithgareddau a chyfleusterau cymunedol.
• Datblygu presenoldeb ‘ar-lein’ cynyddol a chyflwyno strategaeth farchnata gynyddol.
“Wrth i ni ddychwelyd yn araf i ryw ffurf ar normalrwydd bydd y Cyllid a ddarperir gan Gronfa Gweledigaeth Pen y Cymoedd i’n helpu i gyflogi aelod staff yn hanfodol wrth gynorthwyo’r Gymdeithas i adfywio a thyfu yn y dyfodol.
Bydd medru nodi a diwallu anghenion ein cymuned o ganlyniad i’r Pandemig Covid, gyda chymorth y grant, yn galluogi ni i roi darpariaeth sydd wedi’i thargedu’n well at y cymunedau amgylchynol a sefydlu gweithgareddau newydd i ddiwallu’r anghenion hyn yn y gobaith y bydd y ddarpariaeth hon yn gatalydd nid yn unig i adfywio ein hardal ond i’r Gymdeithas hefyd.” Joanne Jones