ARTS FACTORY FERNDALE

660 354 rctadmin
Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn falch o gyhoeddi dyfarniad grant o £145,980 i’r fenter gymdeithasol yng Nglyn Rhedynnog, sef Arts Factory.  Dros y pedair blynedd nesaf, bydd y sefydliad yn gallu mynd â’i  weithgareddau menter i’r lefel nesaf – gan ei helpu i dyfu, dod yn gynaliadwy ac yn llawer llai dibynnol ar godi arian. 
 
Mae’r Arts Factory wedi bod wrth wraidd y gymuned dros y 30 mlynedd diwethaf – yn gweithio i wella bywydau pobl trwy ddarparu amrywiaeth eang o weithgareddau a gwasanaethau hanfodol. Yn gynyddol, cefnogir y rhain gan ei fusnesau cymdeithasol – mae’r sefydliad wedi arwain y ffordd wrth ddangos y gall cynhyrchu incwm weithio go iawn ar gyfer y sector gwirfoddol.
 
Bydd y grant Cronfa Gymunedol yn cefnogi datblygiad pellach Arts Factory Design, adnewyddu ardaloedd lleoliad eiconig y grŵp sef capel Trerhondda gan ddarparu mwy o le i’w logi, ac uwchraddio’r cyfarpar TG a ddefnyddir gan y sefydliad cyfan.
 
Pam y cefnogwyd y cais hwn?
  • Roedd yn drwyadl ac yn seiliedig ar dystiolaeth, gyda chynllun busnes argyhoeddiadol a rhagolygon llif arian clir.
  • Bydd dwy swydd yn cael eu creu – gyda’r potensial ar gyfer rhagor o swyddi ymhen amser.
  • Bydd incwm a gynhyrchir gan y mentrau cymdeithasol cryfach yn cefnogi darparu gwasanaethau a chyfleoedd hanfodol i gymuned Glyn Rhedynnog
  • Mae’n sicrhau bod adeilad pwysig ar y stryd fawr yng nghanol Glyn Rhedynnog yn cael ei adnewyddu at ddefnydd y gymuned, ac yn chwarae rhan bwysig yn y treflun ffyniannus
Mae Lisa Wills, Pennaeth Gweithrediadau yn Arts Factory wrth ei bodd – “mae’r grant Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd hwn yn ddechrau gwych tuag at gynhyrchu incwm cynaliadwy, a fydd yn ei dro yn cyfrannu at elusen Arts Factory i ymgysylltu, hyfforddi a chefnogi pobl ar y cyrion yn y gymuned hon yn y Cymoedd”.