GRANTIAU O’R GRONFA MEICRO – ROWND 5

919 553 rctadmin
Ddwy flynedd ar ôl ein grantiau cyntaf, mae’n anodd credu ein bod ni nawr yn cyhoeddi canlyniadau pumed rownd y gronfa micro! 
 
Unwaith eto cawsom lawer mwy o geisiadau nag yr oeddem yn gallu cefnogi. Derbyniwyd 69 o geisiadau yn gofyn am gyfanswm o £270,410.
 
Y tro hwn rydym wedi gallu dyfarnu £98,931.84 i 27 grwp cymunedol a 5 busnes – a denwyd £67,893 mewn arian cyfatebol.
 
Mae amrywiaeth enfawr yn natur y prosiectau sy’n cael eu datblygu – ac mae bob amser yn bleser i gwrdd â’r bobl angerddol, egnïol ac ymrwymedig sy’n eu llywio.  Gallwch weld rhestr lawn o’r grantiau Yma – yn eu plith mae:
  1. £3,941 i Gyfeillion Ysgol Gynradd Ynysfach, Resolfen er mwyn marcio man gemau aml-ddefnydd ar y iard chwarae.  Ar hyn o bryd, lle tarmac gwag yw’r iard a’r plant eu hunain dewisodd blaenoriaethu’r prosiect yma fel rhywbeth a fyddai’n gwella eu hamdden o ddydd i ddydd. Bydd offer aml-ddefnydd yn cael eu defnyddio gan bob disgybl a gan grwpiau cymunedol eraill y tu allan i oriau ysgol. 
  2. £3,162 i Glwb Bocsio Amatur Gwynfi, Blaengwynfi – Ers ei sefydlu yn 2002 yn Neuadd Gymuned boblogaidd Glowyr Gwynfi, mae’r clwb wedi cael llwyddiannau nodedig, gan gynhyrchu nifer o bencampwyr bocsio Prydain. Mae’r Prif Hyfforddwr newydd a’i dîm o wirfoddolwyr wedi meddwl yn ddwys am yr hyn sydd ei angen arnynt nawr er mwyn i’r clwb gael ei redeg yn gynaliadwy ac yn broffesiynol. Bydd y grant yn talu am hyfforddiant achrededig hyfforddi yn ogystal ag offer newydd ac anghenion cystadlu.
  3. £5000 i Avant Cymru yn Nhreorci – Mae breg-ddawnsio yn arddull athletaidd o ddawns sy’n gamp ac yn gelfyddyd. Yn 2019, bydd Cymdeithas Breg-Ddawns Prydain yn cynnal 6 digwyddiad rhanbarthol gan arwain at bencampwriaeth plant Prydain ym mis Hydref. Ym mis Hydref y llynedd, cynhaliwyd cystadleuaeth lwyddiannus yn y Ffatri Pop ym Mhorth gan ddenu 65 o gyfranogwyr o bob rhan o’r byd. Creodd y digwyddiad llawer o ddiddordeb ymhlith pobl ifanc a bydd y grant hwn o gymorth wrth adeiladu ar hynny trwy greu digwyddiad yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treorci ac yn yr Ysgol Gyfun. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn bydd Jamie & Tommy Boost yn recriwtio ac yn hyfforddi tua 65 o bobl ifanc yn Nhreorci i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder gyda golwg ar y digwyddiad (a rhai tebyg yn y dyfodol). Mae breg-ddawnsio newydd gael ei sefydlu fel un o 4 ychwanegiad newydd i’r Gemau Olympaidd yn 2024.
  4. £3,594 i Gyfryngau Cymdeithasol Rheoledig yn Aberdâr -Bydd y fenter hon yn darparu cymorth arbenigol wedi’i deilwra er mwyn helpu busnesau a sefydliadau yng Nghwm Cynon i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd marchnata sydd ar gael drwy gyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn cydnabod nad oes gan y rhan fwyaf o fusnesau bach yr amser na’r arbenigedd i fanteisio ar y cyfleoedd sylweddol sydd ar gael iddynt.