CYFEILLION WCKA RCT

645 402 rctadmin
GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £4,998
Sefydlwyd y grŵp newydd hwn (o rieni a chyfeillion) i godi arian at anfon plant ac oedolion i Bencampwriaeth Cic-baffio’r Byd yn Athens ym mis Hydref 2018. Mae’r 17 o fyfyrwyr (9-47 oed) yr oeddent eisiau eu hariannu’n hyfforddi yng nghanolfan chwaraeon Sobell Aberdâr ac roeddent oll wedi cymhwyso ar gyfer Tîm Cymru. Mae’r gystadleuaeth bencampwriaeth yn ddigwyddiad uchel ei broffil yn y gamp hon y mae Tîm Cymru wedi rhagori ynddi dros y 2 flynedd ddiwethaf.
“Fel grŵp o 17 fe deithion ni i Wlad Groeg ac enillom 11 o fedalau Aur, 11 medal Arian a 12 medal Efydd, gan orffen yn y 6ed safle o’r 38 o wledydd a fu’n cystadlu. Galluogodd y grant i ni brynu cit ar gyfer yr holl fyfyrwyr gan ostwng y baich ariannol a sicrhau nad oedd fforddadwyedd yn atal unrhyw un galluog rhag cymryd rhan. Mae’r holl bobl ifanc hyn wedi dychwelyd gyda hyder cynyddol, rhai fel Pencampwyr y Byd, mae myfyrwyr a aeth allan yn swil wedi aeddfedu a chreu cyfeillgarwch gyda phobl o bob cwr o’r byd. Maent wedi dychwelyd i’w clybiau fel modelau rôl, gan ysbrydoli eraill trwy eu hymrwymiad a’u dymuniad i lwyddo. Rydym mor ddiolchgar am y grant gan Pen y Cymoedd.” – Andrew Williams Cyfeillion WCKA RCT
 
Sut y bodlonodd y prosiect hwn flaenoriaethau’r gronfa:
Cymunedau sy’n fwy iach ac actif / Dechrau’n ifanc i daclo problemau hir dymor / Ystod eang o gyfleoedd lleol i fod yn iach, actif a chysylltiedig.