Mae CAAC Aberdâr yn grŵp ymroddedig sydd wedi bod ar bwynt cau i lawr ac sydd bellach yn ffynnu – maent wedi gweithredu ers tua 40 mlynedd ac ar anterth llwyddiant y clwb roedd ganddo dros 200 o athletwyr a bws i gludo athletwyr i ddigwyddiadau. Bu hefyd yn brif ysgogydd athletau yng Nghwm Cynon. 7 mlynedd yn ôl, fodd bynnag, chwalwyd cyfleusterau’r trac yn Aberdâr i greu lle ar gyfer yr ysgol newydd a gyda nhw fe ddiflannodd y Clwb gyda’i holl aelodau a’i angerdd dros gystadlu.
Yn sgil cryn oedi derbyniwyd yr allweddi i’r trac a chyfleusterau athletau newydd sbon yn Aberdâr fel rhan o waith ailddatblygu CBS RhCT ac ers y pwynt hwnnw yn haf 2018 maent wedi tyfu o tua 10 o aelodau i 150 o aelodau gweithredol ar hyn o bryd. Maent yn cynnig rhedeg trac a chae, traws-wlad a ffordd i’r holl fechgyn/merched, dynion a menywod o 8 oed i fyny ac ar hyn o bryd maent yn gweithredu gyda thua 60% merched a 40% bechgyn.
Maent yn weithredol dros ben ar yr holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, yn hysbysebu’r clwb yn wythnosol a chan gyrraedd ymhell, ac maent yn ennyn diddordeb ysgolion lleol, yr awdurdod lleol a chyrff llywodraethu i greu cysylltiadau a gweithio ar y cyd.
Diben ein grant oedd cefnogi cyrsiau hyfforddwr lefel 2 er mwyn iddynt ddarparu’r hyfforddiant cynhwysol y mae arnynt ei angen fel nad yw aelodau’n teithio i glybiau mwy sefydledig ymhellach i ffwrdd. Diben arall y grant oedd hurio cyfleuster, cit a chyfarpar a thrwy gynorthwyo nhw yn y cam hwn gydag uwchraddio sgiliau, hyfforddiant a hurio cyfleuster, rhoddwyd gofod iddynt ddatblygu a rhoi’r holl brosesau ar waith i fod yn gynaliadwy.
“Diolch am ddod i’n gweld ni, roedd y plant yn dwlu ar gael llun wedi’i dynnu ac roedd yn wych cael chi yno i weld sut effaith mae eich cyllid wedi’i chael arnom ni fel clwb, rydym ni fel gwirfoddolwyr yn cael pleser mawr dim ond o weld y plant yn mwynhau eu hunain a mwynhau’r hyfforddiant a chystadlu. Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel i ni ac rydym wedi dwlu ar bob munud. Rydym yn edrych ymlaen at gynhyrchu hyd yn oed yn fwy o ddiddordeb yn y clwb gan athletwyr hŷn ac iau.” – Keely Jarvis
Sut y bodlonodd y prosiect hwn flaenoriaethau’r gronfa: Cymunedau sy’n fwy iach ac actif / Dechrau’n ifanc i daclo problemau hir dymor / Cymunedau sydd â chyfleusterau chwaraeon ar gyfer pob oedran, sy’n cael eu defnyddio a’u cynnal a chadw’n dda