CYMDEITHAS THEATR GERDD SELSIG – HAIRSPRAY

960 720 rctadmin

GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN: £5000.00

 

Cefnogodd y grant Pen y Cymoedd ein cynhyrchiad o ‘Hairspray’ yn Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci.  Y prif wahaniaeth yn sgil derbyn y grant hwn oedd y gallem ddefnyddio golygfeydd, goleuadau a gwisgoedd proffesiynol, a barodd welliant aruthrol i’r cynhyrchiad.

 

Cymerodd 72 o bobl o amryw oedrannau ran yn y sioe, gan ennill profiad sydd fel arfer ar gael dim ond i actorion lled neu gwbl broffesiynol. Gwerthwyd yr holl docynnau ar gyfer y sioeau i gyd, gan roi hwb enfawr i Selsig a’n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ar ben hynny, mae mwynhad, pleser ac adborth cadarnhaol y 600 o bobl a wyliodd y sioe bob nos wedi peri i ni deimlo’n wirioneddol falch o’r hyn a gyflawnom wrth wneud rhywbeth dros ein cymuned.

 

Yn yr ardal hon mae cynifer o bobl o amryw oedrannau a chefndiroedd yn mwynhau cymryd rhan mewn theatr amatur, pobl sy’n dwlu ar ymarfer a chymryd rhan, pobl sy’n hwyluso trwy addysgu cerddoriaeth, cynhyrchu ar y llwyfan, dawnsio a chanu ac wedyn y bobl y tu ôl i’r llen sy’n cynnal gweithrediad y grŵp. Mae cynhyrchiad fel hwn yn golygu bod cannoedd o bobl yn cymryd rhan, gwirfoddoli ac yn mwynhau rhywbeth gyda’i gilydd yn eu cymuned eu hunain.

 

Dros y blynyddoedd mae cyllido sioeau yn y Parc a’r Dâr wedi mynd yn gynyddol anodd, eleni diolch i’r grant gan y Gronfa Grantiau Bychain rydym wedi dechrau adennill ein costau ac fel trysorydd y Gymdeithas dyma ryddhad enfawr, diolch Pen y Cymoedd.” – Ron Evans

 

Mae gan Selsig aelodaeth gref iawn rhwng 16 ac 84 oed sy’n gymysgedd o ddynion a menywod. Mae costau wedi cynyddu dros y 10 mlynedd ddiwethaf gan olygu eu bod bellach yn rhwystr i’r grŵp. Maent wedi’i chael hi’n anodd gwerthu tocynnau dros y ddwy flynedd ddiwethaf ond yng nghanol 2017, wrth baratoi eu prosiect ar gyfer 2018, cynhaliodd y Gymdeithas arolwg ar-lein a ofynnodd i’r gymuned gyffredinol ddewis sioe gerdd yr oeddent yn dymuno i Selsig ei pherfformio yn 2019. Awgrymwyd nifer mawr o sioeau, fodd bynnag ffafriodd mwy nag 80% o’r rhai a atebodd “Hairspray”. Pan gadarnhawyd y penderfyniad gan y Pwyllgor, roedd yr ymateb gan aelodau presennol a’r cyhoedd yn gadarnhaol tu hwnt.

Derbyniom gais cryf, a dilynodd Ron ein cyngor ac arweiniad yn ystod y broses ymgeisio, roedd y sioe’n benigamp, mae wedi codi eu proffil hyd yn oed yn fwy yn y Cwm ac rydym yn gobeithio y bydd y sioe lwyddiannus hon yn helpu gyda’u cyllid – Kate, Pen y Cymoedd

 

Sut y bodlonodd y prosiect hwn flaenoriaethau’r gronfa:

Gwerthfawrogir diwylliant lleol fel adnodd lleol ar gyfer hunanfynegiant / Calendr digwyddiadau, a hysbysebir yn dda ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr / cefnogi gweithgareddau diwylliannol ac ysbryd cymunedol