CLWB PAFFIO AMATUR CWMGWRACH

1024 768 rctadmin
GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN: £3226.32
Galluogodd y grant gan PyC i ni osod sylfaen gadarn ar gyfer campfa gymuned lwyddiannus. Mae’r cyfarpar, cit a’r cylch paffio wedi cael effaith sylweddol arnom ni fel clwb ac mae cyfranogiad y gymuned wedi ein gwneud ni mor falch. Rydym bellach yn rhedeg Paffio, Paffio i Blant / Paffio i Fenywod yn Unig / Ioga / Sesiynau Grŵp Cyn-filwyr a Phaffio sy’n benodol i Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth.
 
Mae gennym fwy o aelodau’r gymuned fel gwirfoddolwyr ac mae ein grŵp wedi ei gofleidio’n wirioneddol gan grwpiau chwaraeon eraill y pentref, gydag aelodau’r timau rygbi a phêl-droed yn defnyddio ein gofod fel estyniad fforddiadwy i’w rhaglenni ffitrwydd eu hunain. Mae trigolion Cwmgwrach yn gefnogol iawn ac yn falch o gael y cyfleuster hwn yn eu cymuned. Mae’n syfrdanol gweld ein paffwyr yn llwyddo ac yn cystadlu ond mae’r effaith y mae wedi’i chael ar y gymuned leol yn rhoi pleser mawr i ni.
 
Nid oeddem byth yn disgwyl cyrraedd ein sefyllfa bresennol, ac ni fyddai wedi bod yn bosib heb y cyfarpar a brynom gyda’r grant gan Pen y Cymoedd” – Leighton Collins
 
Cysylltodd y clwb newydd hwn â ni 6 mis ar ôl cael ei sefydlu am gyfarpar, cit ac offer diogelwch hanfodol. Roedd gan y grŵp lefel drawiadol o egni ac ymroddiad. Roeddent eisoes wedi adeiladu rhwydwaith cryf gydag ysgolion lleol, clybiau rygbi a phêl-droed, grŵp dawns, y Sgowtiaid, grŵp pensiynwyr Cwmgwrach, Age Connect, yr Heddlu/Plismyn Cefnogi Cymunedol a’r cyngor cymuned. Roedd ganddynt gyfryngau cymdeithasol gweithredol ac roeddent yn hybu sesiynau mynediad agored ar ddiwrnodau penodol i ennyn diddordeb y gymuned ehangach – gan groesawu pobl i mewn fel lle i gymdeithasu.
 

Roedd y cais yn glir, wedi’i gyflwyno’n dda a’i ystyried yn ofalus. Mae’r ymarfer corff sydd ynghlwm wrtho i’w groesawu, ynghyd â’i effaith gadarnhaol ar gydlyniant cymunedol, gan sianelu ymddygiad ymosodol ac ennyn diddordeb pobl ifanc sy’n anodd eu cyrraedd. O dan arweiniad WABA, mae’r rheolau’n llym – mae’r gamp yn canolbwyntio ar dechneg, disgyblaeth, cyflymder a sgiliau, ac mae’r paffwyr bob

amser yn gwisgo offer diogelu’r pen a menig.
 
Mae’n wych dilyn nhw ar gyfryngau cymdeithasol a’r wythnos hon yn unig maent wedi cyhoeddi ar Twitter bod “2 o’n paffwyr wedi llwyddo ymuno â sgwad Bechgyn Dan 15 Oed Castell-nedd. Llongyfarchiadau Logan a Cosmo, mae’r clwb yn falch iawn ohonoch chi’ch bechgyn” – Dymunwn lwyddiant parhaus i’r clwb – Kate, Pen y Cymoedd
Sut y bodlonodd y prosiect hwn flaenoriaethau’r gronfa:

Dechrau’n ifanc i daclo problemau hir dymor / Cymunedau sy’n fwy iach ac actif / Amrywiaeth ehangach o gyfleoedd lleol i fod yn iach ac actif ac i gymryd rhan