CWMDARE OAP ACTIVE WALES – TEITHIAU CARRY ON

1024 525 rctadmin
GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £1000
 
Dyfarnwyd grant o £1,000 i Cwmdare OAP Active Wales gan y Gronfa Grantiau Bychain ym mis Medi 2018. Maent wedi eu lleoli yng Nghwmdâr, Cwm Cynon gyda 106 o aelodau y mae eu harwyddair yw “Ymddeol o’r gwaith, nid o fywyd” ac wedi bodoli ers 1941, gyda chyfarfodydd bob pythefnos sy’n cynnwys sgyrsiau, bingo a sieri, maent hefyd yn cynnal dau ddigwyddiad blynyddol a dwy daith bob blwyddyn.
Gyda 106 o aelodau, dyma’r grŵp pensiynwyr mwyaf rydym wedi derbyn cais ganddo. Mae tuag 85 yn dod i’w cyfarfod bob pythefnos yn Neuadd Cwmdâr ond mae tua 104 yn mynd ar y teithiau gan gynnwys aelodau’r gymuned sydd fel arfer yn gaeth i’r tŷ. Maent yn grŵp cryf ac ymroddedig iawn sy’n rhannu ceir ac yn casglu pobl o gartref i fynd i’r cyfarfodydd pan fydd eu symudedd yn gyfyngedig. Maent wrthi’n cronni swm wrth gefn iach i leihau dibyniaeth ar grantiau ac mae’r aelodau wedi gweithio’n galed iawn i gyfrannu at hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf (gan gynnal y digwyddiadau a rafflau, cynhyrchu nwyddau i’w gwerthu etc). Roedd y Pwyllgor eisiau diolch i’r grŵp trwy gynnig o leiaf un daith am ddim i’r holl aelodau.
Rhoddwyd £1,000 iddynt i dalu am daith i Fae Ceredigion.
Gwnaethom logi dau fws a mynd i Fae Ceredigion, cawsom ginio yng Ngwesty Bae Ceredigion ac wedyn treuliom ychydig o amser yn y dref. Gwnaethom i gyd fwynhau cwmni ein ffrindiau a phobl nad ydynt fel arfer yn gadael Cwmdâr heb fod yng nghwmni pobl eraill. Roedd Brent Thomas Coaches yn rhagorol, cawsom ddiwrnod anhygoel, gan gymysgu’n gymdeithasol, cadw’n actif ac adeiladu cysylltiadau a chyfeillgarwch. Rydym eisiau dweud diolch yn fawr iawn i Pen y Cymoedd am roi diwrnod i’r brenin i gynifer o drigolion lleol.” – Mairwen Silvanus
Sut y bodlonodd y prosiect hwn flaenoriaethau’r gronfa:

Annog cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol / Cymunedau sy’n fwy iach ac actif / Cefnogi ysbryd cymunedol