Dyfarniadau Grant y Gronfa Weledigaeth yn Rhoi Hwb i Fusnesau a Grwpiau Cymunedol y Cymoedd

550 525 rctadmin
Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd wrth ei bodd â chyhoeddi manylion pump grant ychwanegol gan y Gronfa Gweledigaeth – gan fuddsoddi £183,535 ar draws pedwar o Gymoedd De Cymru.
Mae grantiau’r Gronfa Gweledigaeth yn cefnogi gweithgareddau sy’n cyflwyno amrywiaeth o fuddion i gymunedau lleol – gall busnesau, y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gyd ymgeisio. Mae angen i gynigion fod yn eofn, uchelgeisiol ac ychydig bach yn anghyffredin – ac mae’n rhaid eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol dros yr hir dymor. Mae’r prosiectau diweddaraf i’w cefnogi yn eang eu cwmpas – o hyfforddiant sgiliau digidol a gwella cyfleusterau chwaraeon i siop frechdanau, caffis a pharciau cymunedol! Rydym yn agored o ddifri i syniadau a chynigion o bob math.
Dyfarnwyd £25,000 i AFC Llwydcoed i adeiladu eisteddle dan do 250 sedd – sy’n hanfodol er mwyn i’r tîm uchelgeisiol wneud cynnydd i Adran 1. Cododd y Clwb y swm anhygoel o £75,000 mewn arian cyfatebol, ac mae gwaith adeiladu bellach yn mynd rhagddo, yn barod i’r tymor newydd. Bydd yn rhoi hwb enfawr i’r aelodau, gan godi proffil y Clwb a chreu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc leol – bechgyn a merched fel ei gilydd – i chwarae pêl-droed ar lefel uchel a datblygu eu sgiliau. Mae’r Clwb wedi bod wrth wraidd y gymuned ers iddo ddechrau 87 mlynedd yn ôl. Fe’i ffurfiwyd allan o, a chan, y gymuned glowyr ac mae bob amser wedi cymryd rhan yn llawn ym mywyd y pentref nid yn unig trwy annog a darparu cyfleoedd chwaraeon ond hefyd trwy drefnu a chefnogi digwyddiadau a gweithgareddau.
Dyfarnwyd £99,000 i Gyngor Cymuned Blaengwrach i drawsnewid ac uwchraddio Parc Lles Cwmgwrach. Roedd y gymuned leol wedi bod yn awyddus i weld gwelliannau i’r Parc ers tro – a chadarnhaodd ymgynghoriad â’r gymuned bod hyn yn flaenoriaeth i bobl o bob oedran. Mae’r Parc a’r Neuadd bob amser wedi bod wrth wraidd amrywiaeth eang o weithgareddau cymunedol gwahanol, fel rhywle i gwrdd, cymdeithasu a mwynhau’r golygfeydd – ac ar gyfer chwarae, gemau pêl ac adloniant plant bach, plant hŷn a’r rhai yn eu harddegau.  Mae’r gwaith sydd bellach ar y gweill yn cynnwys gosod cyfarpar chwarae newydd ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd, creu gardd gyda seddau a lle ar gyfer digwyddiadau cymunedol awyr agored. Bydd y Cyngor Cymuned yn creu cronfa ar gyfer cynnal a chadw’r Parc yn y dyfodol i sicrhau ei fod mewn cyflwr rhagorol am flynyddoedd i ddod.
Diolch i grant o £7,184 galluogwyd The Sandwich Bank i agor mewn hen adeilad Banc ym mhentref byrlymus Hirwaun sy’n tyfu’n gyflym, gan gyllidoarwyddion llachar newydd a gweddnewid mewnol. “Rydym yn anelu at fodel busnes ‘Bachu a Mynd’ yn hytrach na siop goffi draddodiadol” meddai’r perchennog Kay Chaplin-Enoch “bydd gennym ddau fwrdd bach a chadeiriau i bobl eu defnyddio wrth iddynt aros i’w harchebion ffres gael eu paratoi” Mae’r busnes wedi gweld dechrau prysur iawn, gan ddarparu cyflogaeth leol a gwasanaeth lleol rhagorol newydd.
Dyfarnwyd £21,819 i People and Work i gefnogi Clybiau Codio presennol a datblygu rhai newydd ar gyfer pobl ifanc yng Nghymoedd Rhondda a Chynon. Codio yw’r broses o ddefnyddio iaith raglennu i gael cyfrifiadur i wneud yr hyn rydych eisiau iddo ei wneud, ac mae’n fedr y mae galw mawr amdano. “Ar hyn o bryd, mae diwydiannau technoleg newydd sy’n cynnig swyddi safon uchel yn ne-ddwyrain Cymru’n ei chael yn anodd recriwtio staff – mae tua 1000 o swyddi wedi eu creu dros bedair blynedd yn ardal Caerdydd yn unig” meddai Rheolwr y Prosiect, James Hall. “Ar yr un pryd, mae cannoedd o bobl ifanc yn angerddol dros godio a chyfrifiadureg, ond dydyn nhw ddim yn gwybod digon am godio fel dewis gyrfa a’r farchnad swyddi hon – dyna’r hyn y bydd y prosiect hwn yn ei daclo.” Yn ogystal ag adeiladu sgiliau, bydd cyfleoedd profiad gwaith, cefnogaeth dros entrepreneuriaeth ddigidol (e.e. gellir cefnogi pobl i godio apiau, datblygu gwefannau o leoliadau cymunedol neu o gartref), a chaiff cysylltiadau eu datblygu gyda phrifysgolion a busnesau. Ffocws penodol fydd ennyn diddordeb merched a menywod ifainc, sydd wedi eu tangynrychioli yn y sector technoleg.
Mae Canal View Café wedi derbyn dyfarniad o £15,000 gan y Gronfa Gweledigaeth i wella’r cynnig arlwyo yn ardal picnic a maes parcio Camlas Castell-nedd yn Resolfen (oddi ar gefnffordd brysur yr A465), gan weini bwydlen amrywiol o fwyd cynnes ac oer ffres 7 niwrnod yr wythnos. Bydd y grant yn cefnogi prynu a gosod cynhwysydd amlwytho mawr – gan ei drawsnewid i gegin fasnachol lawn gyda seddau ar gael y tu mewn a’r tu allan. “Mae’r lleoliad drws nesaf i’r gamlas a’r afon yn eidylig” meddai’r perchnogion Darren ac Emma Hughes. “Mae’n boblogaidd iawn gyda thwristiaid ac ymwelwyr o bob cwr o’r wlad – mae mynediad uniongyrchol o’r safle i Llwybr Camlas Resolfen ac Afon Nedd.  Byddwn yn cydweithio â CBS CNPT i hyrwyddo treftadaeth leol, gan gynnwys ysgolion a grwpiau lleol, a chan gynnig man cyfarfod ar gyfer cerdded y gamlas, beicwyr mynydd a phawb sy’n frwd dros yr awyr agored.” Bydd y cyfleuster newydd yn cefnogi recriwtio a hyfforddi 6 chyflogai amser llawn newydd o’r ardal leol ynghyd â phrentisiaid.
 
Bydd y Gronfa Gymunedol yn bodoli am yr 20 mlynedd nesaf o leiaf, ac mae ein cynlluniau’n uchelgeisiol. Dros y cyfnod hwnnw, rydym yn gobeithio y bydd y Gronfa’n gwneud cyfraniad go iawn at greu ardal sy’n lle deinamig, cyffrous a bywiog i fyw a gweithio.
Os oes gennych chi neu eich sefydliad neu fusnes brosiect mewn cof, boed yn fach neu’n fawr, mae’r Gronfa Gymunedol yn croesawu ymholiadau gennych. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein rhaglenni grant Cronfa Grantiau Bychain a Chronfa Gweledigaeth ar ein gwefan –www.penycymoeddcic.cymru – neu drwy ffonio Barbara neu Kate ar 01685 878785. Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych.