Meet the Team – Michelle

700 500 rctadmin

Enw?

Michelle Coburn-Hughes BA (Anrh)

Swydd yng Nghwmni Buddiant Cymunedol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd?

Cyfarwyddwr

Hanes Swyddi (yr ydych am ddweud wrthym amdanynt)?

22 mlynedd mewn Addysg gan gynnwys 14 mlynedd ar lefel Uwch Reoli. Hefyd 5 mlynedd mewn datblygu busnes yn dechrau a sefydlu elusen lwyddiannus yn cyflogi dros 55 o aelodau staff yn ardal fuddiant PYC ar y cyfan.

Ychydig amdanoch chi?

Fe wnes i adael fy nghyrsiau Safon Uwch er mwyn cael swydd â chyflog isel a oedd ar y pryd yn cefnogi fy angerdd am siopa – roeddwn i bob amser yn angerddol am rywbeth!

Prynais i dŷ yn 18 oed a dod yn fam yn 19 oed. Dros gyfnod byr o amser sylweddolais fod bywyd yn mynd i fod yn heriol iawn yn ariannol wrth weithio mewn swydd â chyflog isel. Profodd fy ngŵr a minnau adegau anodd ac roeddwn yn poeni am dalu am betrol weithiau i fynd i’r gwaith a hefyd heriau wrth osod bwyd da ar y bwrdd. Gwnaeth hyn i mi sylweddoli mai dim ond ni oedd â’r gallu i newid ein dyfodol er budd ein teulu. Roeddem yn ifanc iawn o hyd ac roedd ffordd hir o’n blaen.

Tra’n gweithio’n amser llawn, a bod yn fam a gwraig gwnes i ymrestru mewn dosbarthiadau nos a dros gyfnod o 5 mlynedd enillais HNC, Gradd Sylfaen a 2:1 mewn Gradd Anrhydedd mewn Rheoli Busnes, a arweiniodd at gael swydd Uwch Reolwr mewn Ysgol Uwchradd yn 25 oed.

Ar ôl cyfnod o amser yn y swydd hon fe’m harweiniodd i sefydlu CRA yr ysgol. Mae wedi ffynnu ac mae bellach yn gweithredu fel Elusen a Chwmni Cyf sy’n cyflogi dros 50 o unigolion ar draws tri chwm, gan redeg nifer o wasanaethau Gofal Plant, Cymunedol a Chwarae i’r gymuned.

Drwy waith caled, penderfyniad a gŵr a thri o blant hynod o gefnogol, rwy’n ffodus i fod mewn man lle gallaf gefnogi a, gobeithio, annog pobl eraill i gredu ynddyn nhw eu hunain a gwneud gwahaniaeth.

Pam oeddech yn dymuno gwneud cais i Fwrdd PyC?

Cael y cyfle i ddefnyddio fy mhrofiad a’m brwdfrydedd a bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau a all gael effeithiau cadarnhaol, sy’n newid bywydau, ar unigolion a theuluoedd yng nghymunedau’r cymoedd. Roedd y cyfle i weithio’n wahanol a dysgu gan eraill hefyd yn gyffrous iawn i mi. Mae gan bob un ohonom rywbeth i’w roi ond mae rhywbeth i’w ddysgu bob amser!

Pa sgiliau ydych chi’n meddwl rydych chi’n eu cynnig i Fwrdd PyC?

Rwyf wedi byw fy mywyd cyfan yn y cymoedd ac yn teimlo’r ysbryd o gymuned a’r angerdd sydd wedi gwreiddio’n ddwfn sydd gennym ni bobl y cymoedd. Rwy’n deall llawer o’r heriau a’r anawsterau y mae rhai teuluoedd yn dod ar eu traws ac mae gennyf empathi ac awydd mawr i gefnogi prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol ac y gallant wneud hynny. Yn ogystal â hyn a chan gynnwys y sgiliau amrywiol rwyf wedi’u hennill yn ystod fy ngyrfa ac fel unigolyn cadarnhaol a brwd, rwy’n teimlo bod gen i gyfoeth o sgiliau perthnasol i’w cynnig i Fwrdd PyC.

Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am Gronfa Gymunedol PyC?

Bod yn rhan o Gronfa hyblyg iawn sy’n gallu newid cymunedau er gwell. Mae’r syniad o allu helpu amrywiaeth o wahanol bobl a siapio tirwedd cymunedau cymwys yn y dyfodol yn fraint arbennig ac mae’n llawn cyffro i mi!

Yn eich barn chi, beth yw’r bygythiadau neu’r risgiau i lwyddiant y gronfa hon?

Meddwl am ddarpar dderbynwyr ac unigolion yn gwneud cais am gyllid sylweddol ar gyfer prosiectau nad ydynt yn gwneud gwahaniaeth parhaol. Mae gwaddol y gronfa a’r effaith yn eithriadol o bwysig ac mae’r risg o ariannu prosiect sy’n methu yn fater o bryder, fodd bynnag mae angen cymryd risg er mwyn trawsnewid cymunedau – cael a chael yw hi!

Pe byddech yn deffro yfory fel anifail, pa anifail fyddech chi’n dewis bod a pham?

Stalwyn fel yn hysbyseb Lloyds TSB! Yr unig broblem yw bod stalwyn yn wryw ac rwy’n bendant yn fenyw … ac nid yn unig hynny, dwi’n fyr hefyd! Erbyn meddwl, rwy’n credu y byddwn i’n fwnci!

Pe baech yn sownd ar ynys anial, pa dair eitem fyddech chi am eu cael gyda chi?

Yn wreiddiol, roeddwn yn meddwl am fy ffôn, blanced a llyfr da, fodd bynnag, ni fyddai signal na lle i wefru ar gyfer y ffôn, felly byddai’n ddiwerth ac er fy mod wrth fy modd â bod yn gysurus byddwn wedi marw mewn dim o dro gyda’r dewis uchod!

Er mwyn goroesi, byddwn yn sicr yn dewis teclyn cynnau tân, cyllell fawr a sosban!

Diolch am rannu ychydig amdanoch eich hun gyda’n cymunedau!