PÊL-RWYD Y RHONDDA – DYFODOL CLWB PÊL-RWYD TREORCI

960 640 rctadmin
GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £4,940
 
Amcan y prosiect hwn oedd parhau â’r ddarpariaeth yn Nhreorci a’i thyfu – erbyn hyn Treorci yw’r mwyaf o’u 4 clwb iau a’r tymor hwn roedd 165 yn bresennol ar gyfartaledd bob wythnos. Cefnogodd y grant gan y Gronfa Grantiau Bychain gostau Prif Hyfforddwr, Hyfforddwyr Cynorthwyol a hurio’r cyfleuster ar gyfer y tymor.
 
“Mae pob grŵp oedran ar ein lefel iau yn Nhreorci wedi ehangu diolch i’r grant hael gan Pen y Cymoedd. Roedd y diddordeb mawr yn y rhaglen Rascals yn syndod mawr i ni. Roeddem yn disgwyl 20 o gyfranogwyr yn y grwpiau oedran hynny o wybod y diffyg mynediad sydd gennym i ysgolion babanod lleol y rhanbarth o’i gymharu â’r ysgolion Cynradd. Denodd y sesiynau Dan 5 Oed a Dan 7 Oed (Rascals) 74 o ferched yn ardal Treorci’n unig; dyma oedd einsesiynau Rascals mwyaf llwyddiannus allan o’r rhaglen gyfan. Mae wedi bod yn anhygoel gweld faint o ferched sy’n ymgymryd â Phêl-rwyd y Rhondda, nid yn unig i fodloni eu hanghenion iechyd/ffitrwydd ond hefyd i roi “teulu” ac ymdeimlad o berthyn iddynt. Mae wedi peri i ni gydnabod yr angen am ein harwyddair newydd, “Pêl-rwyd y Rhondda – Mwy na Champ!”.
 
Helpodd PYC i ni gefnogi costau ein hyfforddwyr yn Nhreorci sydd wedi gwneud gwaith anhygoel wrth dyfu’r clwb ac arloesi ein rhaglen Rascals. Mae pob hyfforddwr wedi’i ymroi i barhau i gael effaith ar fywydau’r merched ifainc ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb Pen y Cymoedd.
 
 
 
Mae rhieni wedi elwa o gyfranogiad cynyddol eu merched. Mae’n rhoi cyfle iddynt dreulio amser gyda’u merched yn Rascals hefyd.
 
 Mae adborth gan y rhieni eu hunain yn dweud eu bod wrth eu boddau â’r ffaith bod eu merched yn cael bod o dan ddylanwad modelau rôl mor gadarnhaol (ein hyfforddwyr) sy’n eu hannog bob dydd i wneud mor dda ag y gallant. Maent hefyd yn mwynhau’r ffaith nad yw eu merched bellach “wedi eu diflasu”, yn “crwydro’r strydoedd”, neu’n “sownd wrth eu ffonau yn y tŷ”.
 
 
 
Mae’r hyfforddwyr hefyd wedi elwa o’r cyfleoedd cynyddol i roi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau lleol a chael effaith ar fywydau cynifer o bobl ifanc. Hefyd mae wedi galluogi i’n hyfforddwyr ifainc gaffael sgiliau arweinyddiaeth a chyfleoedd datblygu pwysig.
 
 
 

Rydym yn gyffrous iawn am argoelion y dyfodol i Dreorci!” – Jody Barnes Pêl-rwyd y Rhondda