Pen y Cymoedd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Cartref

Croeso i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Sefydlwyd y Gronfa gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau hynny sydd yn gartref i’w fferm ynni gwynt ar draws blaenau cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.

Mae gan y gronfa gyllideb flynyddol o £1.8 miliwn y flwyddyn yn gysylltiedig â mynegai, ac wrth i fynegai cysylltiedig olygu ei bod ynghlwm wrth gyfradd chwyddiant, mae’n tyfu bob blwyddyn ac yn 2024 roedd yn £2.4 miliwn. Mae’r gronfa yn cynnig cyfle anhygoel i bobl leol fuddsoddi ynddynt eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sydd orau yn eu cymunedau. Ewch i’r tudalennau ‘Gwneud Cais am Gyllid’ i gael gwybod mwy.

Rheolir y Gronfa gan Gwmni di-elw er Budd Cymunedol sydd yn atebol yn lleol ac yn gwbl annibynnol. Mae gan y Cwmni wyth cyfarwyddwr a thîm o 3 aelod o staff – pob un â chysylltiadau lleol sydd yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cynnal cymunedau. Rydym yma i helpu! Gallwch ddarllen mwy amdanom ni fan hyn.

Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau ar y wefan, ond os na, tarwch nodyn atom ni enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch 01685 878785. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.

Lawrlwythiadau

Mae llawer o ddogfennau defnyddiol ar ein tudalennau Lawrlwytho a Chanllawiau a Chysylltiadau – dogfennau megis canllawiau, fersiwn hawdd ei ddarllen o’n Prosbectws, manylion o grantiau a roddwyd, astudiaethau achos, ein polisïau a dyddiadau ar gyfer ein sesiynau galw-mewn.

Ardal y Gronfa

Yn gyffredinol, y cymunedau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’r trefi a’r pentrefi sydd wedi’u cynnwys yn ardal y Gronfa wedi’u rhestru yma. Os ydych yn ansicr a yw eich sefydliad neu syniadau am gynnig yn dod o fewn yr ardal, cysylltwch â ni. Mae’n bosibl i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i’r ardal, ond mae’n rhaid i’r gweithgaredd neu’r prosiect arfaethedig gynnwys cymunedau oddi mewn iddi, a bod o fudd uniongyrchol iddynt.

Beth yw blaenoriaethau’r Gronfa?

Datblygwyd Prosbectws y Gronfa yn dilyn ymgynghoriad eang yn lleol. Mae’n rhoi i ni fframwaith cychwynnol, a bydd yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Dymunwn gefnogi syniadau arloesol, datblygiad sgiliau, hyfforddiant a menter ac rydym yn awyddus i glywed ac i drafod eich syniadau chi.

Our Funding Priorities – Prospectus – Pen Y Cymoedd Community Fund (penycymoeddcic.cymru)

Dolenni Cyflym

Cael eu Hysbrydoli

Cliciwch yma i ddarllen astudiaethau achos ac ysbrydoli storïau am y grwpiau, busnesau a gweithgareddau a gefnogir gan y gronfa gymunedol

Cael gwybod mwy...

Newyddion Diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Pen y Cymoedd CIC er mwyn cadw lan â’r datblygiadau diweddaraf

RHAGOR O NEWYDDION...

Gwnewch Gais am Gyllid

Dysgwch mwy am y Gronfa, codwch eich pensil a lawr-lwythwch ffurflen gair. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais yn electronig.

SUT I YMGEISIO....

Y newyddion diweddaraf

Mae Pen y Cymoedd yn ariannu prosiect KnowURights ar gyfer pobl ifanc yng Nghwm Afan gyda grant o £121,923
724 1024 rctadmin

Gweledigaeth yr Uned Hawliau Plant yw ‘Cydweithio i wireddu Hawliau Plant’ gan roi cyfleoedd i blant a phobl ifanc i leisio eu barn wrth wneud penderfyniadau. Cysylltodd CRU â Pen y Cymoedd gyda phrosiect uchelgeisiol i weithio yng Nghwm Afan am 3 blynedd, gan ddatblygu mentrau hawliau plant cynhwysol mewn tri cham.: 1. Addysgu a…

Darllen mwy
Pen y Cymoedd yn cefnogi swydd fedrus newydd yn Treorchy Sewing Enterprise
506 373 rctadmin

Mae gan gynhyrchu dillad hanes hir yn y Rhondda gyda’r mwyaf llwyddiannus oedd Alfred Polikoff (Cymru) a oedd wedi ei leoli yn Ynys-wen yn y Rhondda. Erbyn 1989 newidiwyd enw’r cwmni Polikoff i Burberry, a daeth brand Polikoff i ben. Parhaodd Burberry yn Ynys-wen am y 18 mlynedd nesaf cyn i’r penderfyniad gael ei wneud…

Darllen mwy
3 blynedd pellach o gyllid i gefnogi Prosiect Twf a Mindset
640 480 rctadmin

Yn ôl ym mis Ebrill 2022 cefnogwyd Blociau Adeiladu Resolfen gyda chyllid 1 blynedd i ddarparuprosiect T Growth & Mindset yn Afan a Chymoedd Castell-nedd.Wedi blwyddyn gyntaf lwyddiannus a llawer o waith i ddangos angen a galw am wasanaeth i barhau rydym yn falch iawn ein bod wedi cytuno ar 3 blynedd arall o £144,964.52.Mae’r…

Darllen mwy
Cyllid Pen y Cymoedd yn creu swyddi i gefnogi datblygu busnesau lleol The Tea Rooms
768 1024 rctadmin

Agorodd y Tea Rooms ym mis Chwefror 2020, a dim ond am 5 wythnos y llwyddodd i fasnachu cyn cyfnod clo Covid 19 a chafodd cyfyngiadau eu gorfodi. Dros y 3 blynedd ddiwethaf, maen nhw wedi gallu cynnal y busnes ond maen nhw nawr yn teimlo er mwyn datblygu a chynnal y busnes ymhellach, mae…

Darllen mwy
Y Siop Fach Sero
1000 1000 rctadmin

Yn ôl ym mis Tachwedd 2021 cysylltodd y Siop Fach Sero â Chronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd gyda gweledigaeth yw creu canolfan gynaliadwyedd amgylcheddol yn y Rhondda Fach er mwyn addysgu am newid yn yr hinsawdd drwy ddarparu ffyrdd ymarferol a hygyrch o fyw’n fwy cynaliadwy tra’n cynyddu iechyd a lles corfforol. Roeddem…

Darllen mwy
5 MLYNEDD YN DDIWEDDARACH –AMSER I FYFYRIO
741 587 rctadmin

Wedi’i datblygu’n wreiddiol yn 2015, datblygwyd y Weledigaeth Gymunedol ar gyfer Fferm Wynt Pen y Cymoedd gan dros 4000 o ymatebion unigol gan bobl leol ac amlygodd gyfleoedd ar gyfer dod â buddion ychwanegol a newydd i’r ardal i yrru datblygiad lleol a’r weledigaeth oedd gwaith a chreadigaeth y cymunedau eu hunain, nid oedd yn…

Darllen mwy
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Er gwaethaf y dirwasgiad mae pum busnes a sefydlwyd ac a redir gan fenywod yn y cymoedd yn ffynnu, diolch yn rhannol i gefnogaeth cronfa gymunedol Pen y Cymoedd.
1024 577 rctadmin

O frand gofal croen i ddigwyddiad beicio mynydd i fenywod yn unig a chwmni seidr i wasanaeth cymorth i deuluoedd, mae’r busnesau hyn, i gyd wedi’u sefydlu, o fewn perchnogaeth ac yn cael eu rhedeg gan fenywod yng nghanol cymoedd Cymru, yn ffynnu, yn dilyn buddsoddiad gan gronfa gymunedol fferm wynt Pen y Cymoedd. Mae…

Darllen mwy
Myfyrdodau am llwyddiant prosiect 4 mlynedd yn ariannu Ffatri Celfyddydau, Rhondda
686 344 rctadmin

Roedden ni newydd dalu’r rhandaliad olaf o grant 4 blynedd i Ffatri Gelfyddydau a chael adroddiad terfynol. Rydym wedi gwirioni gyda’u hymrwymiad i’r prosiect a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant parhaus iddynt: 1. Gofynnwyd am fuddsoddiad i gwblhau eu cynlluniau i fod yn ganolfan fentrus gynaliadwy i’r gymuned gyfan.…

Darllen mwy
Grŵp tirwedd a bywyd gwyllt Saith Arches
621 506 rctadmin

Pan gysylltodd Grŵp Tirwedd a Bywyd Gwyllt Saith Arches â’r gronfa ym mis Mawrth 2022, roeddent yn grŵp newydd ei sefydlu sy’n ceisio gwella ac adfer y llwybrau cerdded, llwybrau, a mannau agored cyhoeddus o amgylch Cymmer, Afan. Mae’r grŵp yn dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd sydd â diddordeb mewn gwella’r amgylchedd lleol ac…

Darllen mwy
Yr wythnos hon ym mywyd Pen y Cymoedd
1024 1024 rctadmin

Mae’r amrywiaeth o’r hyn rydyn ni’n cael gwneud, gorfod gwneud, a chael yr anrhydedd o wneud yn ystod wythnos waith ym Mhen y Cymoedd yn anhygoel. Dechreuon ni’r wythnos drwy ymweld â stiwdio prosiect Our Space / Ein Lle Ni am ragolwg slei o Dolby Atmos yn recordio band pres fel rhan o brosiect cyffrous…

Darllen mwy